|
Mae Edward Tudor Jones, Caerberllan, Cwm Llan wedi ei ddewis yn Aelod y Flwyddyn gyda Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru - tipyn o anrhydedd yn wir. Dyma'r ail anrhydedd i ddod i'w ran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan iddo gael ei enwebu y llynedd i dderbyn gwobr Myfyriwr y Flwyddyn gan Gymdeithas y Sioe Frenhinol. Mae wedi graddio mewn amaethyddiaeth mewn rheolaeth tir a ffermio yng ngholeg Harper Adams ac ar hyn o bryd mae'n hyfforddi i fod yn syrfewr siartredig. Mae Edward yn aelod brwd iawn efo Clwb Ffermwyr Ifanc, Bryncrug. Mae'n aelod ers deng mlynedd ac ar hyn o bryd fo ydy'r is-gadeirydd. Yna, ar ôl y rali mae'n newid ei het i fod yn ysgrifennydd. Mae hefyd ar bwyllgor gwaith y Sir ac yn gadeirydd pwyllgor y Rali. Ar ben hyn, mae'n gynrychiolydd y Sir ar Gyngor Cymru. Mae'n fachgen amryddawn ac mae wedi cynrychioli Clwb Bryncrug mewn sawl cystadleuaeth megis siarad cyhoeddus, barnu stoc a chystadlaethau'r eisteddfod. Bu'r un mor frwdfrydig i lawr ym Nhrefyclawdd gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc pan dreuliodd ei flwyddyn profiad gwaith yno. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ei anrhydedd.
 |