BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Ieuenctid Tywyn yn mwynhau'r Parc Sglefrio Parc Sglefrio Newydd
01 Hyfref 2003
Fe wyr pawb sydd wedi cerdded dros bont y rheilffordd i gyfeiriad glan y môr yn Nhywyn fod parc sglefrio newydd sbon wedi ei godi ar ran o safle'r Rec.
Mae'r datblygiad hwn yn bluen yn het Partneriaeth Tywyn, corff a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl i hybu datblygiad yn yr ardal. Fel yr eglurodd Peter Saunders, Cadeirydd y Bartneriaeth:

"Derbyniwyd cais beth amser yn ôl gan fudiadau sy'n cynrychioli ieuenctid yr ardal yn gofyn am barc sglefrio. Cefnogwyd y cais gan sawl llythyr a chan betisiwn o dros 1000 o enwau".Yn ffodus, roedd £32,000 yn weddill o brosiect y cae-pob-tywydd a thasg fwyaf y Bartneriaeth oedd sicrhau gweddill yr arian (bron i £50,000) i wireddu'r freuddwyd. Mae sawl corff wedi cyfrannu'n hael at y gronfa gan gynnwys : Cyngor Gwynedd, Halo Foods, Cyngor Tywyn, y Gymdeithas Hamdden, y Co-op, Hollywood Homes a chlybiau hamdden lleol.

"Mae amryw o bobl wedi gweithio'n hynod o galed i gael y parc hwn", meddai Peter, "a rhaid i mi enwi dau yn arbennig sef George Watson (Prif Swyddog Hamdden Gwynedd) a PC Ifor Williams (Plismon Cymunedol). Mae gennym le mawr i ddiolch i Tina Venables (cyn-Arweinydd leuenctid) am ei chyfraniad hi hefyd".

Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r prosiect a phan oedd popeth wedi ei gwblhau fe'i trosglwyddwyd i Bartneriaeth Tywyn. Bydd y Bartneriaeth yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb o gynnal a chadw'r parc i Gyngor Tywyn maes o law. Caiff y Parc ei agor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, 11 Hydref am 11 o'r gloch.

Mae'r Parc wedi derbyn croeso brwd gan ieuenctid y fro a chan y cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Mae'n wir fod ambell un yn amau doethineb gwario'r holl arian ar y Parc ac fe wyddom fod trigolion Cambrian Terrace yn anfodlon ei leoliad. Mae sawl un yn gresynnu hefyd na fyddai'r parc wedi ei leoli wrth lan y môr." Nid dyna farn Peter Saunders, fodd bynnag,

"Pam y dylen ni wthio'r bobol ifanc i lan y môr, mor bell o ganol y dref? Maes chwarae ydy'r Rec ac mae'n hwylus i gynnal gweithgaredd fel hyn."

Llwybr Beicio
Nid y Parc Sglefrio ydy unig lwyddiant Partneriaeth Tywyn. Mae hefyd wedi sefydlu Llwybr Beicio yn yr ardal gyda meinciau pwrpasol yma ac acw ar ochr y ffordd i alluogi beicwyr lluddiedig i orffwys. Mae'r llwybr hwn yn arwain beicwyr o gwmpas Craig yr Aderyn ar hyd ffordd wledig, dawel.

"Y bwriad yn y pen draw ydy sefydlu rhwydwaith o lwybrau tebyg ym Mro Dysynni fel y bo gan y beicwyr ddewis o wahanol deithiau," meddai Peter.

I'r perwyl hwn byddai'n hwb aruthrol i dwristiaeth yr ardal pe llwyddid i godi pont i gerddwyr a beicwyr dros yr afon Dysynni ac hefyd pe llwyddid i agor llwybr beicio rhwng Tywyn ac Aberdyfi. Breuddwyd gwrach? Efallai ........ ond dyna roedd pobl yn ei ddweud am y Parc Sglefrio tan yn ddiweddar.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy