|
Cafodd criw o dros wythdeg pump o aelodau, teulu a chyfeillion o'r côr benwythnos bythgofiadwy yn ystod eu hymweliad ag Iwerddon yn ystod yr Hydref yma.
Teithiodd y cwmni dedwydd i Waterford trwy Abergwaun a Rosslare Ile roedd Mr Trefor Foster 'Goruchwyliwr Teithio Personol' y côr wedi bwcio pawb i mewn i'r Days Inn Hotel ar fin yr afon. Mi roedd Trefor hefyd wedi trefnu teithlyfr diddorol i'r penwythnos. Cafwyd ymweliad a chanolfan byd enwog Waterford Crystal.
Bu'r côr yn hamddenu'r staff yn y ganolfan wedi taith o amgylch y ffatri. Cafwyd hefyd daith i New Ross, hen gartref teulu JFK, wedyn mi aeth y parti i ymweld a'r llong Dymbrody, copi-mawl o un o'r llongau newydd a drosglwyddodd cymaint o deuluoedd ar draws yr Iwerydd i ogledd America - y byd newydd.
Cafwyd uchafbwynt y daith ar nos Sadwrn 4 o Hydref ym Mrifeglwys Waterford (Ilun uchod). Mi roedd cynulleidfa eang wedi gwerthfawrogi noson arbennig. Arweiniwyd y côr gan Mr Tegwyn Jones a Mrs Lynda Thomas oedd y gyfeilyddes.
Croesawydd Mr Trefor Foster, arweinydd y noson, Mrs Olwen Jones (unawdydd y côr) (Ilun isod ar y dde o Tegwyn ac Olwen) a hefyd Dulcet, triawd Gwyddelig a ffurfiwyd yn 2001 gan dair merch a oedd yn gantorion opera.
Mi roedd diweddglo hyfryd i'r noson with i'r côr ymuno a Dulcet i ganu anthem dinas Waterford. Aeth elw'r cyngerdd tuag at atgyweiriad cofgolofn Fitzgerald yn y Brifeglwys.
Mi oedd y daith adref eto yn hyfryd with i'r parti deithio drwy dde ddwyrain Iwerddon. Pan gafwyd seibiant galwodd Mr Dei Jones (cadeirydd y côr) pawb at ei gilydd i gyflwyno anrheg o wydr Waterford i Trefor am ei holl waith ardderchog a hefyd i ddiolch i'r cyfan o'r criw am wneud y penwythnos yn un arbennig o hapus, diddorol a chyfeillgar.
Diolchwyd i'r ddau yrrwr hefyd am fod mor gydweithredol. Wrth lanio adref bydd y côr yn wynebu rhaglen gynhyrfu gan gynnwys dau gyngerdd cyn y Nadolig, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Llanrhaeadr YM. Bydd hefyd cyngerdd y côr yn Theatr Llwyn ar nos Wener 14 o Dachwedd 208, ei gwesteion bydd Aled Wyn Davies, Linda Griffiths a Glyn Owen.
Nodyn bach i gloi - sori Dai. Wrth i gadeirydd y côr helpu efo codi'r Ilwyfan cludol, ac wedi iddo lyncu prydau anferth y Days Hotel rhwygodd ei drowsus dan y bwn. Diolch byth bod Mr Ellis Jones (Llangynog) with law i ymateb i'r sefyllfa efo barddoniaeth addas.
I Dei
Pennill fach yw hon i gofio.
Am y trowsus wedi rhwygo. Pan ar wylie flwyddyn nesa Cofia ddod a chlos yn ecstra!
 |