Ar yr ail nos Fawrth o Ragfyr 1968 daeth deunaw ynghyd a phenderfynwyd ffurfio cangen o Ferched y Wawr a oedd i gyfarfod ar yr ail nos Fawrth o bob mis. Roedd y diweddar Marged Jones (Llanfyllin ar y pryd) yno i'n rhoi ar y ffordd.
Etholwyd swyddogion fel a ganlyn:
Llywydd - Miss Hilda Jones Rock House
Is-Lywydd - Mrs Beti Morris Trewern
Ysgrifenyddes - Mrs Elin Price Berwynfa
Trysorydd - Mrs Olwen Hughes Banc House
Gohebydd i'r Wasg - Mrs Menna Edwards Cwmcilan
Erbyn dathlu Gwyl Ddewi, dau fis yn ddiweddarach roedd agos i hanner cant o aelodau, a dal i dyfu oedd yr hanes nes cofnodi tua saith-cieg o aelodau yn yr wythdegau cynnar. Roedd yn gangen fywiog yn cymryd rhan mewn amryw weithgareddau, gan gynnwys pêl droed, dawnsio, eisteddfota a gwibdeithiau gan orffen efo Cyw lar a Sglodion ar y ffordd adre!
Canran isel o'r aelodau cynnar sy'n dal mewn bodolaeth and mae rhai eraill wedi ymuno ac os yn Ilai mewn nifer mae'r gangen yn dal mor frwdfrydig yn cymryd rhan mewn amryw weithgareddau Ileol, rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cwis, plygain, bowlio deg, dartiau, chwist, dominos a.y.b. - Ilai egniol efallai and dal mor fywiog.
Ar yr ail nos Fawrth o Ragfyr 2008, pleser oedd ymgynnull ynghyd am bryd o fwyd blasus, i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth. Croesawodd Mailys Evans ein Llywydd ddeg ar hugain o aelodau, dwy gyn aelod a gwesteion ynghyd yn y Stumble Inn, Bwlch y Cibau, ger Llanfyllin.
Daeth Esyllt Jones y Llywydd Cenedlaethol yr holl ffordd o Gasllwchwr ger Abertawe a Mim Roberts Trefnydd y Gogledd a Maldwyn-Powys o Gwmtirmynach ger Bala.
Cawsom anerchiad amserol gan y ddwy. Roedd ymddiheuriad gan Heulwen Jones Trysorydd Rhanbarth and roeddem yn falch fod Elizabeth Morris, Llywydd Rhanbarth a Bronwen Jones Ysgrifenyddes Rhanbarth yn medru bod yn bresennol, y ddwy yn aelodau ffyddlon o'n cangen ni.
Roedd Gwen Thomas wedi gwneud cacen ddathlu gwerth ei gweld a thorrwyd hi gan Menna Edwards, Elizabeth Morris a Mary Thomas, tair o'r deunaw a ddaeth ynghyd ddeugain mlynedd yn ôl ac wedi bod yn aelodau ar hyd y blynyddoedd. Roedd ymddiheuriad gan Beti Morris Gwenallt oedd yn methu bod yn bresennol.
Cynigwyd llwncdestun gan Elizabeth Morris Llywydd Rhanbarth. Aeth Menna Edwards ymlaen i ddweud hanes sefydlu'r gangen ac ychydig o hanes y blynyddoedd cynnar.
Roeddem yn ddiolchgar i ddau wr Ileol am ddefnyddio eu sgiliau barddonol i gyfansoddi penillion ar ein cyfer. Darllenwyd penillion Dei Edwards Wernpant gan Mary Thomas, Ysgrifennyddes y gangen, ac Eleri Roberts, ein Llywydd Anrhydeddus a ddarllenodd y rhai a gyfansoddwyd gan Talog Davies Trefeiliw.
Roedd gweddill y noson yng ngofal ein gwesteion, Arfon Gwilym -a'i wraig Sioned. Cawsom noson hwyliog a doniol o sgwrs, ambell i stori a chaneuon gwerin. Diolchwyd i bawb gan ein Is-Lywydd, Rona Morris.