|
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin yn dathlu'r ffaith mai nhw yw enillwyr Gŵyl Bantomeim Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn. Enw pantomeim y clwb oedd 'The Greatest Show on Earth' a daeth yn gyntaf o blith 14 o glybiau.
Cyflwynodd Emyr Jones, Llywydd y Sir, darian Miss E A Davies i'r clwb yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar ddiwedd yr ŵyl wythnos o hyd yn Theatr Hafren, y Drenewydd. Enillodd ysgrifennydd y clwb, Katy Watkin, Gwpan Goffa Wendy Davies a roddir i'r Actores Orau 21 oed a hŷn. Cynhyrchwyr y pantomeim awr o hyd oedd Gwynfor Thomas, Mark Watkin a Linda Jones, ac roedd 60 aelod y clwb yn cymryd rhan. Nawr bydd CFfI Llanfyllin yn cynrychioli Ffederasiwn y Sir yng Ngŵyl Bantomeim Cymru yn ne Cymru ddiwedd mis Mawrth. Yr Ŵyl Bantomeim yw un o uchafbwyntiau'r calendr CFfl a chymerodd dros 400 o aelodau ran o bob un o 17 clwb y sir, naill ai yn y gystadleuaeth Saesneg ynteu yn y gystadleuaeth Gymraeg. CFfl Bro Ddyfi enillodd y gystadleuaeth Gymraeg a gynhaliwyd ar y nos lau, ac aethant ymlaen i ennill y gystadleuaeth yn genedlaethol yn ddiweddar.
 |