|
Cynhaliwyd Ffair Fawr Yr Ysgub eleni ar y ffin -nid yn unig gyda Lloegr ond ar y ffin o feddwl am ddalgylch ein papur bro, ond serch hynny daeth y ffyddloniaid ynghyd a chynulliad da o bob lleol hefyd o Lyn Ceiriog a'r dyffryn, ac roedd y Trysorydd yn falch iawn o gyhoeddi bod y swm a godwyd o amgylch £1,600.00 sydd yn cymharu'n deg iawn a ffeiriau eraill y gorffennol (stondinau £783.50; Raffl £602; rhodd gan Merched Y Wawr £20; rhodd gan G Davies £75.00, ac mae rhoddion eraill yn dal i ddod i mewn). Roedd yn neuadd braf a digon o le i barcio a'r tywydd yn eitha caredig hefyd. Cyflwynodd Cadeirydd Yr Ysgub Mrs Sydney Davies yr Agorwr Mr Gareth Davies o Chwilog, ond un o'r Dyffryn, yn fab i Mr a Mrs Aneurin Davies, a chafwyd araith bwrpasol a diddorol ganddo, ac yntau nawr wedi ymddeol fel heddwas ac yn mwynhau ei amser hamdden yn cynorthwyo gyda phapur bro y Ffynnon yn ardal Eifionydd. Ond wrth helpu y papur hwnnw dwedodd iddo sylweddoli'r gwaith gwirfoddol mawr a wneir gan yr holl gyfranogwyr i bapur bro ac yn lIawn canmoliaeth iddynt. Cyflwynwyd anrheg iddo gan Llio Davies, sef caligraffi o waith Ceiriog gan Robin Hughes. Gofalwyd am y te a'r lIuniaeth gan Ferched y Wawr Glyn Ceiriog a mynegwyd y diolchiadau gan Megan Roberts yn absenoldeb yr Is-Gadeirydd y Parch Stanton Evans oedd wedi ymddiheuro ac yntau draw yn Llundain gyda'r Côr. Enillwyd y gwobrau Raffl fel a ganlyn :- £50 E D Williams Maesteg Penybontfawr Gwobrau'r Is-Ardaloedd :- Mair Davies Glyn Ceiriog; Haylley Wright Llanfyllin; Ian Jones Bodyddon Llanfyllin; Hefin Edwards Llanarmon; Glyn Morgan Trefnannau; David Ellis Henlle Gobowen; a Llinos Kilfoil Glyn Ceiriog. Enillwyr gwobrau raffl eraill : Rhiannon Lewis Llansilin; Edith Jones Llwynmawr; Eurwen Morgan Glyn Ceiriog; Elizabeth Jones Bwlchycibau; Cathleen Tomlinson Llanfyllin; Sarah James Llansilin; Olwen Morris Llangynog; Aelwen Buckley Pentrefelin.
 |