|
Dyna yw'r cwestiwn ar wefusau pobl Llanfyllin a'r cylch yn ddiwedder yn dilyn y cyfarfod yn yr Institiwt pryd cyflwynwyd y cynlluniau arfaethedig i'r Ymddiriedolwyr a'r cyhoedd sef gwaith Ymgynghorwyr Cwmni Hyder, cwmni a gomisiynwyd gan yr Ymddridolwyr i archwilio'r posibiliadau gogyfer dyfodol Y Dolydd.
Yr Ymddiriedolwyr wedi cael grant sylweddol gogyfer y gwaith yma a chafwyd cyflwyniad manwl iawn gan y cwmni oedd wedi edrych ar yr holl opsiynau ar ôl ymgynghori â phobl a busnesau yn lleol ac yn genedlaethol. Os am lwyddo i ddenu grantiau mawr gan y Loteri Treftadaeth yna byddai'n rhaid cael ateb oedd yn cynnwys o leiaf rhywfaint o fynediad a defnydd yn yr adeilad hanesyddol hwn gan y cyhoedd. Felly yr ateb gorau yn eu tŷb hwy a gyflwynwyd oedd un yn cynnwys aml -ddefnyddiau, cymunedol a phreifat, busnes a phreswyl. Byddai'n rhaid ystyried cael rhan o'r adeilad ar gyfer fflatiau a chartrefi fforddiadwy, busnesau bychain a mudiadau cymunedol fel ysgol feithrin a MENCAP er mwyn cynhyrchu incwm i wneud yr adeilad yn hunan-gynhaniol. Cynigiwyd
bod chwarter yr adeilad yn cael ei glustnodi ar gyfer defnydd cymunedol gan gynnwys Canolfan Dehongli - canolfan i gyflwyno hanes yr adeilad ac a fyddai o fudd i ysgolion lleol ac i ymwelwyr.
Buasai'r tri chwarter arall yn cael ei droi'n fflatiau 2/3 llofft (tua 10 ohonynt), 3 tŷ prynwyr am y tro cyntaf ac un uned gartref gan Gymdeithas Tai. Yn ogystal â hyn byddai'n rhaid cael hawl cynllunio gogyfer 12 o dai bychain wrth ochr ddwyreiniol yr adeilad er mwyn sicrhau elw ar y prosiect i gyd i'r datblygwr.
Mynegwyd pryder gan rai y byddai hyn i gyd yn golygu mwy datblygiadau sydd ar droed ar hyn o bryd yn y dref, a'r canlyniad o gynnydd yn y niferoedd yn yr ysgolion ac eisiau gwasanaethau iechyd ac yn y blaen. Hwyrach bod nifer plant oedran cynradd yn lleihau'n gyffredinol yn y wlad heddiw, ond yn y tymor byr byddai mwy o blant yn yr ysgol Uwchradd yn bryder - mae eisoes bron yn 1000 o ddisgyblion ac nid yw'r cyfleusterau ar gael ar gyfer popeth yn enwedig addysg gorfforol ar hyn o bryd.
Mae'n ddewis anorfod i'r Ymddiredolwyr - os na dderbynir yr awgrymiadau yna bydd yr adeilad yn dirywio mwy eto ac yn y pen draw yn dod i lawr ac yn cael ei ddatblygu gan ddatblygwr preifat a dim mynediad cyhoeddus a dim cysylltiad a'r holl hanes - neu, derbyn yr adroddiad a chario 'mlaen gyda chais am grant loteri a datblygu fel y mae'r Yngynghorwyr wedi'i amlinellu, ac a fydd yn cymryd cyfnod o 3 i 4 blynedd i'w gwireddu.
 |