Tywynnodd yr haul drwy'r dydd ar Awst 12fed 2005, 'Diwrnod Ann Griffiths' a chafwyd cyfarfod agoriadol penwythnos o gofio a diolch am fywyd a doniau Ann yn Hen Gapel John Hughes Pontrobert, pan ddaeth y Dr E Wyn James a'r Canon A M Allchin i rannu â thua deugain ohonom eu dirnadaeth hwy o'r ferch 'gyffredin, anghyffredin' hon a aned yn Nolwar Fach yn Ebrill 1776 ac a gladdwyd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar Awst 12fed 1805. Cawsom ein goleuo a'n cyfareddu gan y ddau ŵr sydd yn adnabyddus am eu hastudiaeth drylwyr o waith a dawn ac athrylith ein prif emynyddes; Dr James ers Eisteddfod Meifod 2003 wedi gwneud cymwynas fawr wrth greu 'Gwefan Ann Griffiths' i ychwanegu at ei holl ysgrifau, pamffledi a llyfrau, a'r Canon Allchin wedi codi ymwybyddiaeth y di-Gymraeg o waith Ann trwy ei lyfrau Saesneg a'i fynych ddarlithiau mewn sawl rhan o'r byd.
Wedi cyfrannu o ginio blasus yn 'Pentre Ucha', drws nesa' i Hen Gapel, aeth nifer ymlaen i eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa erbyn 2 o'r gloch i Oedfa Gymun ac i wrando ar y Parchg. Ddr Patrick Thomas, Caerfyrddin yn rhoi'r anerchiad, a da oedd ei groesawu 'nôl i'r sir Ile'i ganwyd.
Yng Nghanolfan Gymunedol Dolanog am 3.30 agorwyd arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd gan y Barchedig Mary Lewis, (gynt o Dy Encil yr Ysgrin, Erwood) ond yn awr yn byw yn Nolanwg. Canon Allchin ddywedodd air ar y dechrau ac wedyn soniodd y Parchg Alan Gaunt yn afieithus am y ffordd yr aeth ati i gyfieithu holl emynau a llythyrau Ann i'r Saesneg, a bu'r gymeradwyaeth iddo yn dangos cymaint y mae pobl y fro yn gwerthfawrogi ei gampwaith. Bu gwerthu mawr ar ei gyfrol (ar y cyd â'r Parchg Ganon Alan Luff), 'Hymns & Letters of Ann Griffiths' a gyhoeddwyd gan Stainer & Bell ym 1999.
Yn ôl wedyn i Bontrobert erbyn 7yh i brofi gwefr perfformiad gan bedwar person ifanc lleol o'r cyflwyniad dramatig 'Deufor Cyfarfod' gan Aled Lewis Evans Wrecsam; hanes John, Ruth, Ann a John Davies Tahiti gyda Beryl Vaughan yn cyfarwyddo a Linda Gittins yn ychwanegu cerddoriaeth addas ac yn cyfeilio i'r pedwar cymeriad, weithiau yn unigol, dro arall mewn cynghanedd pedwar llais. Roedd yr Hen Gapel dan ei sang a phawb wedi derbyn gwir fendith, cyn cael swper a chân yn yr Ardd Heddwch y tu cefn i'r Capel. Canodd Delyth Lewis yn dra swynol i gyfeiliant telyn Haf Watkin a bu Haf a'i thelyn yn gefndir hyfryd drwy'r adeg.
Nid oedd rhagolygon y tywydd yn rhy dda ar gyfer Sadwrn Awst 13eg ac mewn cawod o law y death nifer dda i'r Seiat yng Nghapel Pendref Llanfyllin am 10.30 i wrando ar bum Doethur, sef Kathryn Jenkins, E Wyn James, R Geraint Gruffydd, R Watkin James, Robin Gwyndaf a dau weinidog yr Efengyl Tudor Davies a John Gwilym Jones yn ymdrin a gwaith a pherson Ann Griffiths. Fe'u croesawyd gan weinidog Capel Pendref y Parchg Raymond Hughes, a hefyd a'n harweiniodd mewn gweddi cyn i bawb ganu emyn Ann, 'O am fywyd o sancteiddio, sanctaidd enw pur fy Nuw' i gyfeiliant Pauline Page Jones ar yr organ. Hi hefyd a drefnodd arddangosfa o luniau hynod ddiddorol or furiau'r capel, muriau sydd erbyn hyn hefyd yn dal darlun trawiadol o Ann a Ruth a baentiwyd gan yr artist o Bwllheli, Wiliam Roberts, ac a gafwyd yn rhodd ganddo.Llawenydd a braint oedd ei dderbyn.
Mae ein diolch yn fawr hefyd i'r chwiorydd am ddarparu cinio i bawb. Cafwyd anerchiadau a thrafod sylweddol ar 'Arwyddocâd ysbrydoledd Ann Griffiths i ni heddiw' ; digon yw i mi fy mod wedi dweud 'Amen' i alwad daer Robin Gwyndaf am inni fynd ati i weithredu ar unwaith i ddarbywyllo ein cyd-Gymry mai ein hangen pennaf yw troi yn ôl at Grist, y Crist lesu yr hwn a welai Ann fel cyfaill personol a thestun cân i bara byth ac a wnaeth yn ganolbwynt ei bywyd. Onid dyne yw arwyddocâd ysbrydoledd y Ferch o Ddolwar Fach i ni yng Nghymru heddiw?
Aeth tua phump ar hugain i gerdded o Bontrobert i Ddolwar Fach yn y prynhawn, ac fe gododd y cymylau a pheidiodd y glaw yn wyrthiol wrth iddynt gychwyn. Ar y ffordd bu iddynt aros yng nghanol y pentref i ddadorchuddio cofeb efydd, un o bedair ar Lwybr Ann Griffiths, a gomisiynwyd gan Antur Dwy Afon ar gyfer y dau gan mlwyddiant. Gwahoddwyd Dr E Wyn James gan Gadeirydd yr Antur Beryl Vaughan i ddweud gair cyn i'r cerddwyr symud ymlaen ar eu taith tua Dolwar gan ddilyn yr union lwybr a droediodd Ann wrth fynd i'r seiat ym Mhontrobert. Bu'n wefr i'r dewrion a fentrodd!
Wedi lluniaeth a baratowyd gan chwiorydd Capel Coffa Ann Griffiths a'u ffrindiau, aeth rhai i'r cyfarfod yn y capel am 7 o'r gloch i glywed hanes y lle ac i ganu rhai o emynau Ann.
Bore Sul heulog a thyner gafwyd ar Awst 14 ac roedd eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn llawn ar gyfer yr offeren am 11 o'r gloch, a weinyddwyd gan Canon Allchin gyda chymorth y Barchedig Mary Lewis, a'r Ficer y Parchg. Edward Yendall wrth yr organ. Oedfa ddwyieithog oedd hon, a chanwyd pedwar o emynau Ann, dau yn Gymraeg a dau yng nghyfeithiadau synhwyrus Alan Gaunt. Un o'r ardal, sef Dr Enid Pierce Roberts roddodd yr anerchiad rymus. Hyfryd oedd gweld i rywun roi torch o lilis gwynion ar wely o ddeiliach gwyrdd wrth droed cofeb Ann yn y fynwent.
Cymanfa Ganu a hysbyswyd am 4 o'r gloch y prynhawn yng Nghapel Coffa Ann Griffiths yn Nolanog, a tydw i ddim yn un sy'n rhy hoff o'r syniad bod rhaid cael 'arweinydd' pan yn canu emyn, ac yn sicr tydw i ddim yn hoffi'r duedd o feddwi ar y tonau yn lle canolbwyntio ar y geiriau. Pleser a bendith felly oedd canfod mai 'Gwasanaeth Coffadwriaethol' oedd dewis Linda Gittins fel teitl i'r hyn oedd i ddigwydd, ac o dan ei harweiniad teimladol ac angerddol ar brydiau, cafwyd dros ddwyawr wefreiddiol o hoelio sylw or eiriau Ann a'u dimad a'u gwerthfawrogi o'r newydd.
Rhannodd Linda lawer o'r profiadau dwys a ddaeth iddi a'i chyd gyfarwyddwyr Penri Roberts a Derec Williams, wrth weithio ar y sioe gerdd 'Ann!' gan gyfaddef iddi dderbyn bendith ryfeddol a barodd iddi ymaelodi yn Y Capel Coffa flwyddyn yn ôl. Canodd Betsan Lewis, 'Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd' yn y person cyntaf fel a gafwyd yn y sioe gerdd, a daeth hynny ag ymdeimlad o agosatrwydd Ann at ei Christ yn fyw iawn. Yr organydd oedd Huw Davies ac yntau wedi brwydro yn erbyn gwaeledd cas a effeithiodd ar ei ddwylo, ond llwyddodd yn rhyfeddol i gyfeilio i dair ar ddeg o emynau er ei ddolur.
Deuddeg o emynau a argraffwyd yn y rhaglen, ond ar ôl clywed y Prifardd John Gwilym Jones yn dweud yn y seiat yn Llanfyllin bod ambell dôn cyfarwydd yn anaddas i natur y farddoniaeth mewn emyn, canwyd, 'Dyma babell y cyfarfod' ddwy waith, gyda'r ail dôn yn gweddu'n well i oslef a phwyslais geiriau Ann a ninnau a oedd yno'n medru sawru'r geiriau hynny yn iawn am y tro cyntaf, o bosib. Cyffyrddiad hyfryd oedd i Saesnes o'r pentref roi myrtwydd a rhosyn saron o'i gardd i Linda i'w rhoi ar flaen y sêt fawr.
Gonestrwydd, gwyleidd-dra, gwefr, bendith, trwyl, dyrchafiad, gorfoledd - cafwyd hwy i gyd a mwy nes imi ymdeimlo â phresenoldeb yr Ysbryd Glân yn erfyn ar bobl Maldwyn unwaith eto i droi'n ôl at ffyrdd yr Arglwydd
Gweddiaf mai gwrando a wnawn. Diolch Ann a diolch byth a chan mil o ddiolch i'r Creawdwr.
Erthygl gan Nia Rhosiet (cydlynydd yr ŵyl).
Lluniau o wasanaeth coffa Ann Griffiths.