|
Ymfalchïwn fel ardal yn llwyddiant un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin, sef Claire Evans o Lanfyllin. Wedi cychwyn ei gyrfa ym myd y gyfraith fe benderfynodd Claire fentro i fyd ffashiwn, diddordeb oedd ganddi ers yn yr ysgol ac mae ei llwydddiant wedi bod yn ysgubol. Mae'n ddylunydd ffashiwn gyda Clairey yn Wyle Cop Amwythig ac yn ddiweddar fe lansiodd ei label Grace yn Llundain mewn digwyddiad eitha pwysig ar y Southbank. Enillodd Gwobr Dethol Proffil Dylunydd y gwisgoedd gorau, a thrwy hynny wedi ennill ei lle yn siopau House of Fraser drwy'r wlad. Mae catalog Hydref a Gaeaf 2005 yn cynnwys pob math o ddillad a gwisgoedd ar gael nawr. O ganlyniad i'r llwyddiant mae Claire wedi cael ei gwahodd i fynychu Wythnosau Ffashiwn Llundain, Paris a Milan. Bydd hefyd yn stocio Boutique yn Venice Beach Los Angeles, ac mae hefyd wedi cael ei gofyn i ddylunio Casgliad newydd ar gyfer Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd gan weithio gyda Rupert Moon, cyn Chwaraewr Rhyngwladol dros Gymru i helpu lansio delwedd newydd ffasiynnol ar gyfer y Stadiwm. Os am fwy o wybodaeth cysyllter â 01743 366188/ 07974 670815 neu e-bost [email protected]
 |