Gwelwyd newid mawr ym myd amaeth yn yr hanner ganrif ddiwethaf fel y gwyddom a daeth nifer o offer a pheiriannau newydd i fuarth y ffermydd tra bo eraill yno ers canrifoedd. Un erfyn na newidiodd lawer dros y canrifoedd yw'r gwellaif, neu'r 'gwelle'. Dyma yw'r diffiniad a geir gan y Parch Huw Jones yn y Cydymaith Byd Amaeth.
"Offeryn daulafiog, miniog at gneifio defaid, math o siswrn mawr a'i ddau lafn wedi eu cysylltu â'i gilydd gan sbring a hwnnw'n agor y ddau lafn bob tro y'u caeir â'r llaw wrth ei ddefnyddio. Hwn oedd yr offeryn i gnefio defaid am ganrifoedd".
Mae'n siŵr fod nifer ohonoch yn darllen Fferm a Thyddyn ac ynddo ceir cystadleuaeth 'Be ydi hwn?'. Llun gwelle oedd y testun yn rhifyn 34, a bu ymateb brwd yn rhifyn 35.
Roedd un llythyr ynddo a ysgrifennwyd gan Mr Trebor Roberts, Rhydymain (Esgairgawr a Nant y Dugoed gynt) yn sôn am ei brofiadau yn cneifio gyda gwelle. Fel mae'n digwydd, mae gennyf gasgliad o tua deugain o welleifiau ac euthum â nhw i'w gartref a dysgais lawer ganddo. Fe enillodd Trebor y brif gystadleuaeth gneifio gyda gwelle yn y Sioe Frenhinol dair gwaith.
Dangosodd ei gasgliad o welleifiau imi a dywedodd ychydig o'i hanes. Mae'n debyg mai 'Ward' oedd un o'r cwmnïau cyntaf i gynhyrchu gwelleifiau, a chymerwyd hwy drosodd gan y cwmni Burgon and Ball yn ddiweddarach.
Defnyddir llawer o welleifiau y cwmni hwn mewn cystadlaethau cneifio gyda gwelle (neu gyda llaw) hyd heddiw.
Eglurodd Trebor fod Burgon and Ball yn cynhyrchu gwahanol welleifiau i wahanol ardaloedd, gyda enw'r ardal wedi'u stampio ar y llafn. Roedd ganddo welleifiau Prysor, Hiraethog a Wyddyn yn ei gasgliad a dywedodd fod gwelle Tanat ar gael hefyd, er nad oedd ganddo un ei hun.
Bodlonodd i werthu gwelle Wddyn a gwelle Prysor imi a gwelir hwy yn y llun. Cododd hyn awydd ynof i geisio cael gafael ar welle Tanat a gwelle Hiraethog i gwblhau'r set. Cefais sgwrs gyda Gerallt Pennant ar ei raglen yn apelio am y ddau fath o welle, ond ni chefais lwyddiant.
Bu^m yn holi ychydig am welleifiau Tanat a dywedwyd wrthyf fod y diweddar Mr Sam Davies, Banhadla yn asiant i Burgon and Ball yn yr ardal hon. Holais nifer o bobl sy'n parhau i gneifio gyda gwelle a wyddent am welle Tanat sbâr yn rhywle, ond hyd yma ni chefais lwc. Mae'n siŵr fod rhai ar hen walbantiau yn rhywle a hoffwn apelio am un drwy gyfrwng y golofn hon. Nid yw eu cyflwr yn bwysig oherwydd ni fyddaf yn eu defnyddio ac rwyf yn fodlon talu amdanynt.
Buaswn yn hynod o falch o gael cymorth - gelid cysylltu â mi ar 01938 820 594.
Gwelir gwelle bach yn y llun hefyd o wneuthuriad Burgon and Ball. Defnyddiwyd y rhain wrth nodi dustiau yn ac yn aml roedd gwain ledr amdanynt er mwyn i'r bugeiliaid eu cario yn eu pocedi ar y mynydd.
Mae'r hen welle mawr arall yn y llun o wneuthuriad Ward, ac mae'n hen iawn. Dywedodd Trebor Roberts wrthyf fod gwelle a dolen gron yn beryglus oherwydd gallai dafad roi ei droed ynddo a'i gicio o law y cneifiwr. Roedd dolen gyda sbring dipyn saffach.
Bellach aeth y diwrnod cneifio gyda gwelleifiau bron yn angof ac ychydig sydd ar ôl o'r criw a fu'n mynd o un fferm i'r llall i gynorthwyo ac i gymdeithasu a chael hwyl.
Terfynaf am y tro gyda englyn o waith Tom Richards y Wern i'r 'Gwella'.
Deufin i gneifio dafad - a welir
Wrth gorlan at alwad;
Holl erfyn llaw â phrofiad
Eillia wlân yn null y wlad.
Erthygl gan Alwyn Hughes