|
Dros y Sul ar Fedi 23 - 25 bu Cymdeithas y Cambrian yn cymeryd rhan yn y cofio a fu am ddechrau yr Ail Ryfel. Ar y dydd Gwener bu dros 100 o blant ysgol, mewn dillad pwrpasol, wedi gwisgo fel ifaciwis, yn mynd ar y trên o Groesoswallt. Wedyn aeth un grwp i'r neuadd Goffa a'r llall i Glwb Cymdeithasol y Cambrian i gael diod oren. 'Roedd label gan bob un a ffwrdd a hwy i gael cwrdd a'u teuluoedd maeth newydd.
Injan disl oedd yn tywys y plant y tro yma at bont Middleton Road. 'Roedd gwn 8 pwys o'r Ail Ryfel ar un o dryciau'r fyddin wrth law i ddangos pa mor bwysig yr oedd rheiffyrdd i symud popeth yn ystod y rhyfel. 'Roedd y Clwb ag arddangos geriach y rhyfel, yn chwarae cerddoriaeth Glen Miller ac yn cynnig brechdannau spam. 'Roedd paned ar gael am ddeg swllt yng nghaffi'r amgueddfa. Mae Cymdeithas Rheilffyrdd y Cambrian wedi cael £22,000 o gymorth ariannol fel rhan o'r cynllun i adfer yr hen orsaf gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeisdref Croesoswallt a Mantais Gorllewin y Canoldir.
Gosodir ffram yn ôl yng nghaban De Croesoswallt, gan i'r un gwreiddiol gael ei symud gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1968. Gobeithir y bydd y caban yn cael ei ddefnyddio fel rhan hanfodol o Reilffordd Dreftadiaethol yn yr ardal. Bydd ymwelwyr yn cael mynd iddo a thynnu'r lifrau a bydd yn cael ei ddefnyddio i addysgu'r cyhoedd am hanes Croesoswallt a'r ardal gan y bu'r dref yn ganolfan i rwydwaith o reilffyrdd yn ymestyn drwy sir Amwythig a chanolbarth a gogledd Cymru y dyddiau a fu.
Bydd y caban yn cyd-fynd a'r hen orsaf a fu'n becadlys Cwmni'r Cambrian, sy'n cael ei adfer ar hyn o bryd a'i droi yn ganolfan i ymwelwyr. Bydd y caban signalau yn ddatblygiad pellach o gynlluniau Cymdeithas y Cambrian sy'n rhedeg rheilffordd ag amgueddfa. Gwaith arall sy'n cael sylw yw y ffens haearn sy'n ffinio ag Oswald Road. Gwirfoddolwyr, sy'n aelodau o'r Gymdeithas, sy'n gwneud y gwaith paentio yn eu hamser hamdden. Dywedodd Dave Smith, Cadeirydd y Gymdeithas, "Rydym yn gwerthfawrogi y cymorth a gawsom i wella ein darpariaeth ar gyfer ymwelwyr yn ein canolfan yng Nghroesoswallt."
 |