|
Rwy'n gwybod i mi roi rysáit cacen i chi'r llynedd, ond er bod hon yn reit debyg rwy'n tybied ei bod hyd yn oed yn haws. Ychydig iawn o baratoi sydd ei angen a gallaf gadarnhau ei bod yn blasu'n dda!
Bydd arnoch angen:
500g/1 pwys 2 owns rhesins neu gymysgedd o resins a chyrens
250g/9 owns syltanaiaid
100g/4 owns eirin sych wedi eu torri'n fan (y math 'parod i'w bwyta')
75g/3 owns ceirios y wern sych
75g/3 owns ceirios sych
300ml/½ peint brandi (gellir defnyddio lIaeth a brandi'n gymysg os hoffir)
2 llond llwy de sbeis cymysg
Dull
Rhowch yr uchod mewn sosban a'u troi nes byddant yn berwi. Gadewch iddynt oeri 350g/12 owns siwgr brown
250g/9 owns menyn neu fargarin
5 wy
250g/9 owns blawd plaen
50g/2 owns cnau wedi eu malu (bydd unrhyw fath yn gwneud y tro
Hufennwch y menyn a'r siwgr ac ychwanegu'r wŷ, y blawd, y cnau a'r cynhwysion o'r sosban.
Cymysgwch yn dda a throwch i dun 8 owns sgwâr.
Rhowch mewn ffwrn 170°C/Rhif 3 Nwy am tua 2½ awr neu nes bod sgiwer gaiff ei gwthio i ganol y gacen yn dod allan yn lan.
 |