|
Yn ystod y mis dwethaf rydw i wedi trafeilio tua 2600 o gilomedrau trwy 5 talaith gwahanol ar drenau, bysiau, 'rickshaws', camel a chwch bach. Rydw i hefyd wedi bod i briodas y 'caste' uchaf yn Rajasthan, wedi bod mewn ffilm Bollywood ac wedi gweld ogofau a cherfluniau Bwdaidd, Hindu a Jain o mor bell yn ôl a 200 cyn Crist. Roedd y briodas yn lliwgar ofnadwy. Roedd rhaid i ni wisgo mewn gwisg traddodiadol Rajasthani sy'n cynnwys penwisg sy'n anodd iawn i'w gadw ymlaen! Roedd y teulu yn Rajputs - h. y. yn deulu o frenhinoedd, tywysogion a rheolwyr yr wlad. Y dyddiau hyn maent yn dal i 'reoli' dros bentrefi ond yn gorfod gweithio mewn siopau, busnesau ac ysbytai hefyd er mwyn ennill arian. Serch eu golwg allanol modern cefais fy synnu gan ba mor draddodiadol oedd yr holl briodas. Priodas wedi ei drefnu gan y rhieni oedd hi wrth gwrs. Llun yn unig o'i ddarpar wraig oedd y prodfab weid ei weld. Does dim syndod nad oedd yr un ohonynt yn edrych yn hapus iawn yn y seremoni 3 awr o hyd cymerodd lle am 2.30 y bore eiliadau ar ôl iddynt cwrdd am y tro cyntaf. Mae'r priodasau yn para 5 diwrnod (o leiaf) efo un seremoni y diwrnod (er enghraifft dyn o deulu'r prodasferch yn dod ag anrhegion i'r teulu arall) ac mae gweddill yr amser yn cael ei lenwi efo dawnsio, bwyta ac yfed. Gan fod y bwyd wedi gwneud y pedair ohonom yn sal doedd hynny ddim yn gormod o hwyl! Mumbai (Bombay cynt) yw dinas mwyaf 'gorllewinol' India o ran y ffordd o fyw, medden nhw. Tra bod hyn yn wir dyw'r safonau ddim yr un fath dros y dinas i gyd. Wrth y mor gwelwch gwesty mawr crand y 'Taj' a'r 'Gateway of India' o ble hwyliodd y milwyr olaf i adael India. Ychydig ymhellach i fewn i'r dinas fe welwch deuluoedd a 7 neu 10 yn byw mewn tai wedi eu gwneud o bren a darnau sgrap o haearn ar y palmant. Er bod y llywodraeth weithiau yn penderfynnu clirio'r palmant, rhain yw'r pobl lwcus - o leiaf bod ganddynt rhyw fath o do uwch eu pennau yn ystod y monsŵn creulon 3 mis o hyd. Mumbai hefyd yw cartref diwydiant ffilm mwyaf y byd - mae 'Bollywood' yn cynhyrchu 900 o ffilmiau y flwyddyn. Gwelsom un o'r rhai gorau, 'Veer Zaara'. Er nad oeddem yn gallu deall llawer or Hindi roedd stori eithaf dda iddo am ferch o Bakistan yn cwympo mewn cariad efo dyn o India. Gwelais ychydig o ffilm arall o'r enw 'Chocolate' pan cefais fy ngwahodd i fod mewn ffilm. Aethom i'r stiwdio (o safon llawer gwaeth na rhai Hollywood dwi'n siwr) ac roedd rhaid dawnsio mewn 'clwb nos Llundain' tra roedd dawnswyr Bollywood yn dawnsio ar y llwyfan mewn pwll o ddwr! Dwi ddim yn siwr os ydw i eisau gweld y ffilm gorffenedig! Rydw i yn Goa erbyn hyn - talaith sy'n enwog am draethau a golygfeydd o 'baradwys'. Mae hi'n bendant yn brydferth iawn yma ac mae'r tywydd yn union fel haf braf adref. Fan hyn byddaf yn gwario Nadolig a'r flwyddyn newydd, cyn symud ymlaen i Kerla a gweddill y De. Blwyddyn Newydd Dda i chi felly o draeth cynnes India! Ffion Thomas (Llanwddyn)
 |