Roedd yn ddiwrnod dwl a llaith ac roedd hi'n bwrw glaw mân, ond roedd FWAG Canolbarth Cymru wedi trefnu taith gerdded fferm arfer gorau ym Mryndreiniog, Penybontfawr, â chaniatâd caredig Mr a Mrs Roberts a'r teulu.
Gwahoddwyd llawer o ffermwyr i'r daith gerdded ond hanner awr cyn yr achlysur roedd hi'n bwrw glaw, roedd y niwlen yn isel ac nid oedd yr un ffermwr i'w weld. Yn sydyn, peidiodd y glaw, cododd y niwlen a death 45 o ffermwyr i'r daith gerdded roedd FWAG Cymru wedi'i drefnu - felly i fwrdd â ni.
Mae fferm Bryn Dreiniog yn cynnwys 3 uned, oddeutu 240 hectar i gyd. Tir mynydd yw 124 hector o'r fferm, o fewn safle SSSI y Berwyn, ac mae cytundeb Rheoli SSSI ar y tir hwn. Mae'r holl dir is dan gytundeb Tir Gofal a chanolbwyntiwyd ar ran isaf y fferm yn ystod y daith gerdded.
Trafododd y ffermwyr rheolaeth gwrychoedd a choridorau ymyl nant gydag loan Williams, Cynghorydd Cadwraeth Fferm Canolbarth Cymru, a soniodd Dr Glenda Thomas am nodweddion hanesyddol y fferm ynghyd â Chynllun Tir Gofal.
Arweiniodd Tegwyn Jones, Talyglannau, MaIlwyd y daith gerdded, sef Cadeirydd FWAG Cymru yng Nghanolbarth Cymru. Hefyd gwahoddwyd y gwesteion i weld y llyn wedi'i adfer, yr hen draphont dor ac olion yr hen gamlas. Rhoddodd Dr Glenda Thomas a Mr Roberts ychydig o hanes y rhain.
Yna gwahoddodd Mr Roberts y gwesteion i weld y stoc. Mentor defaid a gwartheg eidfon yw'r fferm. Defaid Mynydd Cymreig yw'r rhan fwyaf o'r defaid a Gwartheg Duon Cymreig pedigrî yw'r rhan fwyaf o'r gwartheg ynghyd â tharw Limousin.
Ar ddiwedd y daith gerdded cafodd y gwesteion wledd o stiw cartref roedd Mrs Roberts a Lowri wedi'i baratoi. Ar ddiwedd y diwrnod anerchodd Mr Arwyn Owen (un o'r gwesteion) Swyddog Polisi, Undeb Amaethwyr Cymru, y gwesteion ar destun Traws Gydymffurfiad a Thir Cynnal. Diolchodd Sylvia Evans, Swyddog Hyrwyddiadau FWAG Cymru, i bawb, ac ailadroddodd pa mor bwysig y mae gwybod bod FWAG Cymru yn elusen annibynnol roedd ffermwyr yn ei harwain i helpu ffermwyr Cymru. Ac wrth inni adael, dechreuodd y glaw fwrw eto!
Sefydliad annibynnol â statws elusennol yw Grŵp Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), a phrif ddarparwr cyngor cadwraeth fferm yn y DU.
Am fwy o manylion am FWAG cysylltwch â Glenda Thomas, Rheolwr FWAG Cymru ar 01341 421456