|
Cynhaliwyd Sioe Ffasiwn Iwyddiannus lawn yn Neuadd y Pentref Llanrhaeadr Y M gan Gangen Dyffryn Tanat o'r NSPCC a chodi'r swm anrhydeddus o £1072 gyda'r addewid o fwy i ddod.
Modelwyd y gwisgoedd diweddaraf gan M & S gan aelodau'r pwyllgor a'u plant a Iwyddodd hwy i gerdded a dangos y gwisgoedd yn broffesiynol iawn.
Y cyflwynydd oedd Sarah Lewis aelod Ileol o Fanc Barclays oedd yn cyfrannu hyd at £750.00 at yr ymgyrch a gwnaeth ei gwaith gan roi'r manylion am y gwisgoedd yn rhagorol iawn.
Y modelau oedd Susan Evans-Hughes, Kate Talma, Jean Evans, Rosy Howes ynghyd a'r plant Naomi a Molly Chadd, Sioned Morris a Hefina Evans, a chyflwynwyd chwech o themau - Am Dro yn y Wlad, Gwyliau, Allan i Ginio, Noson Allan, Breuddwydion Braf, a Gwisgoedd i Briodas. Cynorthwywyd y modelau ar y grisiau i fyny ac i lawr o'r Ilwyfan gan Ralph Talma a'r Parch Raymond Hughes.
Dewiswyd y gwisgoedd gan Zoe Clark Rheolwr Ffasiwn M&S Amwythig, a chyflwynwyd y noson gan y Cadeirydd NSPCC Clera Morris a chroesawodd pawb oedd yn bresennol.
Talwyd y diolchiadau cynhwysfawr gan Jean Evans i bawb a weithiodd mor gated i baratoi ar gyfer y noson ac i bawb a gefnogodd y noson.
Darparwyd Iluniaeth a diod ysgafn yn ystod yr egwyl gan aelodau'r pwyllgor a chyfeillion. Cyhoeddwyd hefyd bydd Cangen Llanfyllin a Bwlchycibau NSPCC yn cynnal Cinio'r Sul ar Awst 28ain mewn pabell yn Llys y Coed Llanfyllin a hefyd cynhelir Reid Beiciau ar Ddydd Sul Gorffennaf 5ed ar gyfer pob oedran.
 |