Ar ôl naw mlynedd o drafodaeth y mae Cymdeithas Rheilffyrdd y Cambrian wedi llwyddo i brynu milltir a hanner o'r hen lein i Nantmawr oddi wrth Fwrdd Eiddo y Rheilffyrdd Prydeinig.
Ffurfiwyd y Gymdeithas ym 1972 i gadw treftadaeth rheilffordd Croesoswallt. Hyd yn hyn mae'r Gymdeithas wedi bod yn canolbwyntio ei hymdrechion ar sefydlu canolfan ag Amgueddfa yn ymyl yr hen orsaf. Mae trenau wedi bod yn cludo teithwyr unwaith y mis at bont Middleton Road. Er hyn, y nod oedd ehangu allan o Groesoswallt.
Mae'r Gymdeithas yn hollol arwahan i'r Ymddiriedolaeth sy wrthi yn Llynclys. Felly dyma fynd ati i geisio cael y lein i chwarel Nantmawr a oedd wedi'i gadael i fynd a'i ben iddo. Bu hon yn cludo carreg galch i bob cwr o Brydain.
Mae'r lein yn dechrau ger chwarel Llanddu, yna'n mynd o dan y ffordd ger neuadd Llanyblodwel ac i fyny i Nantmawr. Fe adeiladwyd y lein yn 1863 fel rhan o'r lein o'r Amwythig drwy Llanymynech ac ymlaen i Benrhyn Llyn.
Darfu'r pres yn ymyl Llanyblodwel ac fe aeth y peiriannydd, S.F.France, a'r lein i'w chwarel ei hun yn Nantmawr. Bu'r lein rhannu cledrau a Rheilffordd Dyffryn Tanad rhwng Llanddu a'r bont ar ffordd Llansantffraid (Cyffordd Blodwel).
Mae'r ardal yn llawn o archeoleg diwydianol gyda chwareli Lafarge, Hansons a Nantmawr o fewn tafliad carreg i'w gilydd. Dim ond un, Lafarge ym Mhorthywaen, sy'n dal i gynhyrchu.
Cledrau lle bu coed
Ers mis Medi mae criw o wirfoddolwyr lleol wedi bod wrthi'n torri'r anialwch a dod a'r cledrau i olau dydd unwaith eto. Ar Dachwedd 14 cafwyd diwrnod agored i'r cyhoedd fel y gellid dangos beth oedd yn digwydd. Mae'r coediach wedi ei glirio at y fan lle mae ffordd i'r Gefn Blodwel yn croesi'r rheilffordd (White Gates).
Yn dilyn cyflwyniad byr gan Dave Smith, Llywydd y Gymdeithas, fe dorrwyd rhuban gan y Cyng David Cooper, Maer y Fwrdd-deisdref, i ddweud bod y cynllun ar agor. Wedyn fe yrrodd Ken Owen, rheolwr y gwaith, y troli peirianyddol a oedd newydd gyrraedd. Byddai'r trolis yn cael eu defnyddio i ofalu am y cledrau. Efallai eich bod yn Cofio un yn cael ei defnyddio yn un o ffilmiau St. Trinian.
Mae'r Gymdeithas wedi llwyddo i gael cofrestiad swyddogol i'r amgueddfa yng nghanol Croesoswallt. Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud y tu mewn i'r amgueddfa sy bellach yn dangos hanes rheilffyrdd yr ardal. Mae'r amgueddfa (01691 671749) ar agor bob dydd rhwng 10 a 4.
Mae rhai o'r aelodau wedi prynu hen glwb cymdeithasol y Cambrian a ddefnyddiwyd fel clwb i'r tîm pel droed tan yn ddiweddar. Roedd yr adeilad o fewn trwch blewyn o gael ei ddymchwel i godi tai ar y safle. Rwan mae'n fan i gymdeithasu bob yn ail ddydd Mercher ag ar benwythnosau. Pris yr aelodaeth yw £3 ac mae hawl gan unrhyw un ymuno.
Mae lein Nantmawr yn ran o'r cynllun i warchod olion diwydianol y fro yn ogystal ag hanes y rheilffyrdd. Byddai'r Gymdeithas yn croesawu unrhyw wybodaeth, creiriau, lluniau, atgofion neu hanesion o lein Dyffryn Tanad neu unrhyw lein yn y fro.
Gellid cysylltu a Ken Owen sy'n gyfrifol am atgyweirio'r lein i Nantmawr ar 07802 880263. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo bob penwythnos. Nid oes angen llwyth o wybodaeth am reilffyrdd er bod hiwmor iach yn gyffeiliad.