|
Wedi treulio blwyddyn oddi cartref, braf yw cael bod adref unwaith eto yn y Llan. Treuliais flwyddyn yn teithio efo Robyn, fy nghariad. Cychwynnwyd y daith yng Ngwlad Tai. Nid oeddem ond wedi treulio tair wythnos yn y wlad pan ddigwyddom fod yn rhannu'r un tacsi a merch arall o Gymru, a'i gŵr newydd. Bu'r ddwy ohonom yn sgwrsio a sylweddolom yn fuan ein bod yn hanu o'r un pentref! Pwy fyddai'n meddwl mai wyres Megan Roberts (merch Phil Plas Du) oedd hi. 'Roedd Ceri a Danny ar eu ffordd yn ôl i Seland Newydd ar ôl priodi yn y LIan. Cawsom wahoddiad i aros efo'r ddau tra'r oedd Cymru yn chwarae rygbi yn erbyn y Crysau Duon yn yr Haf. Wedi treulio chwe wythnos yng Ngwlad Tal, aethom i Awstralia am bum mis gan weithio am dri ohonynt yn Sydney a chyfarfod â llawer o Gymry yr un pryd. Yn eu plith 'roedd Mel Plas! Roeddwn wedi bod yn ffodus i gael rhif ffôn symudol gan mam ar ôl darganfod ei fod hefyd yn gweithio yno! Yna ymlaen i Seland Newydd, a theithio o gwmpas mewn 'camper van' am ddau fis, ac yn aros efo Ceri a Danny am ychydig yn Taupo. Gadawsom Seland Newydd a thri mis ar ôl o deithio i'w wneud. Aethom yn ôl i wlad Tai, ar draws i Laos, Fietnam a Chambodia. Profiad anhygoel a dweud y lleiaf. Fe wnaethom fwynhau pob gwlad a chyfarfod â phobl diddorol iawn. Yn sicr bydd yr hyn a welais ym meysydd lladd Cambodia a'r hyn a ddysgais am erchyllterau Pol Pot a'r Khmer Rouge yn aros gyda mi ar hyd fy oes. Sarah Astley
 |