Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd Nia Rhosier, Warden Hen Gapel John Hughes, Pontrobert, neges gan guradur Amgueddfa Llechi, Llanberis, Gwynedd. Roedd rhywun ym Mangor wedi darganfod llawer o lechi mewn sgip sbwriel adeiladu. Nid llechi cyffredin mohonynt, oherwydd ar bob un roedd gwybodaeth am fan geni rhai o enwogion Cymru wedi'i naddu'n grefftus arnynt.
Ymysg y rhain roedd un yn dynodi man geni Gwallter Mechain - y Parch. Walter Davies - sydd yn digwydd disgyn ar dir Mr a Mrs P Row, Wernoleu, Llanfechain. Rhoddodd Mr Row fanylion y llechen o flaen Cyngor Plwyf Llanfechain - a ddwy flynedd yn ddiweddarach mae'r llechen wedi'i gosod ar ddarn o garreg galch ar safle'r Wern - man geni Wallter Davies.
Tu cefn i'r garreg maent wedi rhoi fframiau i amddiffyn rhai o'r coed afalau sydd wedi goroesi ar y safle. Mae'r perchnogion wedi ail-greu llwybr cyhoeddus - sydd wedi ei arwyddo ger Wernoleu - sy'n mynd heibio'r safle.
Hanes Walter Davies
Ganwyd Walter Davies ym 1761 yn y Wern, Llanfechain. Bu'n Rheithor hefyd ym Manafon a Llanrhaeadr ym Mochnant.
Roedd Gwallter Mechain yn ŵr oedd ag amrywiaeth hynod o ddiddordebau a oedd yn cynnwys barddoniaeth, llawysgrifau hanesyddol, llenyddiaeth, meddygaeth, seryddiaeth ac achau. Un o gyfraniadau pennaf Gwallter Mechain oedd ei waith fel golygydd ac awdur. Ymysg ei nifer helaeth o gyhoeddiadau y mae Statistical Account of the Parish of Llanymyneich, A General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales ac Eos Ceiriog sef cyfrol yn cynnwys gwaith Huw Morys.
Bu'n olygydd ar y cyd ar waith Lewys Glyn Cothi. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyd cylchgrawn Y Gwyliedydd. Bu gan Gwallter Mechain fel un o'r Hen Bersoniaid Llengar, rôl allweddol ar y cyd ag Ifor Ceri wrth sefydlu'r eisteddfodau taleithiol, sy'n werth ei nodi gan y bydd Eisteddfod Powys yn cael ei chynnal yn Llanfyllin mis Hydref eleni.
Nid oes amheuaeth mai gyda'i waith fel hynafiaethydd y cafodd Gwallter Mechain y dylanwad mwyaf. Mae gan y llyfrgell genedlaethol dros 300 o'i lawysgrifau ac mae ei waith a'i lyfrau helaeth wedi bod yn destun llawer o astudiaethau hanesyddol. Serch hynny, ni ellir anwybyddu ei waith gyda'r eisteddfodau taleithiol - mae Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys yn ddisgynnydd i system eisteddfodau taleithiol Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Dyma gymeriad lliwgar a diddorol iawn yn hanes Sir Drefaldwyn.
ON - Mae Nia Rhosier wedi sicrhau bod y llechi eraill wedi cyrraedd mannau geni John Hughes ym Mhenfigin, Pontrobert a hefyd man geni Cynddelw ym Mhenybontfawr.
Ffynhonnell y wybodaeth am Gwallter Mechain, y llyfryn 'Arloeswyr Maldwyn', gan Gyngor Sir Powys.