|
Nawr mae'n hedfan yr awyrennau mawr A340 ar draws y byd.
Mae Eifion yn gyn ddisgybl o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Llanfyllin, ac yn raddedig BSc (Anrhydedd Dosbarth 1af) mewn Ffiseg Cymhwysol o Brifysgol Caerdydd.
Ymunodd â'r RAF ym 1990 ac mae newydd gwblhau 16 mlynedd o wasanaeth yn hedfan yr awyrennau mawr Hercules gyda Sgwadron 47 yn RAF Lyneham.
Bu yng nghanol y brwydro yn Sierra Leone, Bosnia, Kosovo, Afghanistan ac Irac. Fe'i anrhydeddwyd gyda'r OFC am ddewrder yn ystod cyrchoedd peryglus yn Irac.
Dymunwn yn dda iddo yn ei swydd newydd. Da iawn Eifion a braf yw cael hanes un arall o lwyddiannau'r fro ac yn dod â chlod i Lanfyllin.
 |