|
Cyfeirio rydym wrth gwrs at Dr David Leighton, Pennaeth Y U Llanfyllin dros y 19 mlynedd diwethaf, pennaeth fu'n uchel iawn ei barch, a phennaeth a fu'n bennaf gyfrifol am ddatblygiad Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Llanfyllin.
Mae ei wasanaeth nid yn unig yn Llanfyllin ond yn Y Drenewydd cyn hynny, a thu hwnt yng Nghymru a Lloegr fel ymgynghorydd addysg wedi bod yn glodwiw iawn ac nid rhyfedd i'r arolygon ysgol ei longyfarch ynghyd â'r ysgol ar ei arweiniad a chyfeirio at ei gymeriad carismatig.
Dymunwn ei longyfarch yn gynnes iawn a phob hwyl iddo ef a'i deulu yn y Palas!
 |