|
Mae'r tripiau blynyddol hyn yn sicr yn mynd o nerth i nerth ac nid oedd y trip eleni yn eithriad. 'Roedd y bws yn llawn (55 ohonom gyda'r gyrrwr) ar fydd yn iawn - glaw ar y ffordd - cawod go drom yn Runcorn - ond wedyn haul a thipyn o wynt yn Lerpwl. Cyrhaeddwyd Gwesty'r Adelphi mewn pryd a'r Parch Ddr V Ben Rees y tu allan yn aros amdanom ac yn ein croesawu a'n tywys i mewn i'r gwesty moethus. Cawsom ein trin fel pwysigion o wlad bell a'r gweision yn gweinyddu'r bwyd ar ein cyfer. Rhoddwyd y gras bwyd gan Y Parch Dr B Den Rees a diolchodd J Talog Davies ein Llywydd iddo am y croeso. Ffwrdd a ni wedyn fel defaid yn cael eu bugeilio'n ofalus gyda'r Arweinydd yn rhoi cyfarwyddiadau clir ac eglur i Geraint ac yntau'n cael marciau llawn am ei sgiliau gyda'r bws. Ar hyd y bererindod wedyn drwy'r ddinas roedd yr hanes yn llifo allan dros y system sain yn y bws a phawb yn rhyfeddu at gof a gwybodaeth y dyn rhyfedd hwn. Parcio wedyn (anghyfreithlon ond heb boeni gan y dwedodd yr Arweinydd wrth y gyrrwr am gyfeirio unrhyw broblem ato ef!) ger y Gadeirlan Anglicanaidd a mwynhau hanner awr yno yn edmygu'r adeilad hardd yma. 0 feddwl am gostau rhedeg ein hadeiladau a wyddoch chi ei bod yn costio £1000 y dydd i redeg a chynnal y Gadeirlan! Ymlaen a ni wedyn i Fynwent Smithfield Road a pharcio'n rhwydd eto. Tywyswyd ni o amgylch y fynwent fawr hon a thynnu'n sylw at sawl bedd a chysylltiadau Cymreig, fel a gafwyd hefyd gan ein harweinydd gwybodus wrth fynd heibio cymaint o adeiladau a strydoedd a rhyw gysylltiad â Chymru. Gwelwyd pedwar bedd arbennig - (i) Gwilym Hiraethog ac wrth y bedd hwn fe ganasom ei emyn enwog dyma gariad fel y moroedd' ar ôl i Thomas Mont a Doreen Davies daro'r nodyn (ii) Peter Williams un o flaenoriaid amlycaf Lerpwl yn ei amser gyda chof golofn anterth yn gof-adail iddo (buaswn yn amcangyfrif ei fod yn ddwbl uchder cof-golofn Ann Griffiths yn Llanfihangel) (iii) Harry Evans Arweinydd Undeb Corawl Lerpwl yn y 19eg Ganrif gyda'r englyn hwn ar ei gofeb:- Cerub fu'n llywio'r corau - gwefreiddiol Gyfansoddwr tonnau, Creai gerdd; ac er ei gau Isod, rhoes gân i'r oesau. A'r (iv) oedd bedd Hugh Owen Thomas un o sylfaenwyr meddyginiaeth esgyrn pwysicaf yn y wlad, ac o'i deulu ef daeth meddygon a sefydlodd Ysbyty Gobowen. Roedd pawb y rhyfeddu at wybodaeth ein Harweinydd ac wedi crwydro pellach o amgylch y ddinas daethom i'w Gapel sef Bethel Heathfield Road ac yno cawsom groeso eto a the bendigedig gan y chwiorydd yno. Talwyd diolch am hwnnw gan yr Ysgrifennydd a Threfnydd y Daith Robin Hughes. Gofalwyd am yr ochr ariannol gan Trysorydd Emrys Grittiths. Ar ôl y te ymunwyd yn yr oedfa a braf oedd cael bendith gyda'n ffrindiau newydd yn Lerpwl, canu da ac organydd ifanc wrth yr offeryn, a phregeth afaelgar i ni fyfyrlo arni gan y Parch Ddr D Ben Rees. Cymerwyd rhan hefyd yn yr oedfa gan Mona Hughes gyda darlleniad. Bu Gwyndaf yn brysur iawn gyda'r system sain ar y bws hefyd yn ein dysgu am hanes Lerpwl a'i chysylltiadau Cymreig. O sylweddoli'r oll a glywsom ac welsom ar y trip nid rhyfedd bod Cymry Lerpwl yn awyddus i gael yr Eisteddtod Genedlaethol yno yn y flwyddyn 2007. Cyrhaeddodd pawb adref yn ddiogel a thalwyd diolch eto ar y bws gan Mr G Tibbott.
 |