|
Mae yng Nghymru erbyn hyn genhadon o Frasil, Corea, Yr Unol Daleithiau a'r India - felly be di'r Newyddion Da? Gwelwyd llygedyn o obaith yn Nyffryn Clwyd yn ystod y blynyddoedd diweddara gyda sefydlu nifer o eglwysi newydd, sy'n gwrthdroi'r dirywiad cyffredinol. Ymysg y rhain mae Cymdeithas Gristnogol Fron Park Treffynnon, Cymdeithas Gristnogol Grapevine yn Y Rhyl, Cymdeithas Gristnogol Llanelwy - pob un wedi ymgodi o Eglwys y Bedyddwyr. Stryd Sussex yn y Rhyl. Bellach mae eglwys newydd yn cychwyn ar ben arall y Dyffryn yn Rhuthun. Mae enwadau eraill hefyd wedi dial cychwyn ar ffurfio cynulleidfaoedd newydd ac mae perthynas gweithgar cryf rhwng rhain ac eglwysi eraill, sydd wedi esgor ar weledigaeth newydd - Gweinidogaeth y Dyffryn. Strategaeth yw hon o alluogi tyfiant Cristnogol a bwys i ddatblygu oddi fewn i'r cymunedau llai ar hyd a lled y Dyffryn trwy gymorth cenhadwr sydd â'i nod o fod yn gymorth i sefydlu a threfnu eglwysi newydd.
Sut y daw hyn i fod? Datblygwyd partneriaeth rhwng Undebau'r Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru a'r Croesgadwyr, i godi grwpiau bychain a bobl ifanc ym mhentrefi'r Dyffryn a'u cysylltu â'r rhwydwaith ehangach a ieuenctid yn y Dyffryn trwy gyfrwng achlysur rheolaidd o'r enw Valley Praise' - Mawl y Dyffryn. Bydd y rhan fwyaf o hyn, er nad popeth, trwy gyfrwng y Gymraeg (y sialens fwyaf sy'n wynebu Cymru ar hyn a bryd yw cyrraedd at yr ieuenctid i Grist yn ein heglwysi/capeli Cymraeg). Fel hyn, wrth i grwpiau gynyddu a thyfu, y gobaith yw sefydlu eglwysi ieuenctid fydd yn medru creu dolen gyswllt â'r cynulleidfaoedd Cymraeg hŷn. Lle bynnag y bu ac y mae symudiad gref o'r Ysbryd, yn oedran 14-25 yw'r rhai cyntaf i ymateb, felly teimlwn fad hyn yn fuddsoddiad da o adnoddau. Felly bwriedir lansio'r weinidogaeth hon ym mis Medi 2004. Bydd y cyllid yn dibynnu ar gefnogaeth yr eglwysi/capeli ynghyd ag unigolion sy'n rhannu'r weledigaeth. Mae nifer o eglwysi eisoes wedi addo cefnogaeth ariannol ac mae Cenhadaeth Cartref Undeb Bedyddwyr yr ynysoedd hyn hefyd wedi addo hanner y cyflog. Pa fwyaf a gyfalaf fydd ar gael ar gyfer y fenter gyffrous hon, po fwyaf y gellid ei gyflawni i atal y dirywiad a gweld y llanw'n troi i wireddu twf go iawn a pharhaol yn y capeli yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae i hyn effaith pell gyrhaeddol hefyd, gan y gellid defnyddio'r model hon i'w phlannu mewn cymunedau gwledig eraill ar hyd ac ar led - ond rhaid cychwyn yn rhywle a Dyffryn Clwyd yw'r man hwnnw. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag unai Dave Cave, Pete Cousins neu Andy Hughes drwy ffonio 01745 342268 neu anfon ebost atynt dan ofal [email protected]. Mae taflenni i'w cael (yn Gymraeg ac yn Saesneg) a gellir trethu siaradwyr ar gyfer grwpiau sydd a diddordeb er mwyn egluro ymhellach.
 |