Cafwyd p'nawn arbennig ar y Sadwrn cyntaf o fis Orffennaf wrth i gyn ddisgyblion, aelodau o'r staff a chyfeillion yr ysgol droi eu camrau tua'r ysgol fu'n cuddio yn y stryd gefn ers cyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd gweld wynebau rhadlon y plant oedd yn ein croesawu wrth y llidiart, yn llochesu rhag y gawod drom o dan glamp o ymbarél, yn codi ein calon ac yn ein rhoi mewn cywair addas i fwynhau p'nawn o hel atgofion ymysg cymdogion a chydnabod.
Roedd diddordeb mawr mewn edrych ar yr arddangosfa o hen luniau. Fe fyddai wedi bod yn amhosibl enwi'r disgyblion i gyd yn yr amser cymharol fyr a gafwyd i drefnu'r p'nawn. Wrth edrych ar y lluniau cymharol ddiweddar o'r plant sylweddolais fod amryw o enwau ac wynebau'r plant wedi mynd yn angof, yn enwedig felly enwau'r rhai hynny sydd wedi symud o'r ardal. Roedd yn bosibl dyfalu pwy oedd ambell i blentyn wrth ddwyn i go aelodau eraill o'r teulu, mae'n anodd gwadu eich perthnasau a'ch tylwyth wrth edrych hen luniau. Taerwn fod rhai o'r athrawon yn edrych yn iau wrth i ni weld y blynyddoedd yn gwibio heibio mewn amrantiad wrth i ni gamu o un degawd i'r llall. Fe fydd lluniau o'r fath yn gofnod pwysig i ddilynwyr ffasiwn ac i haneswyr cymdeithasol, hyd yn oed pe na baent yn adnabod yr un copa gwalltog yn y lluniau.
Roedd casgliad amrywiol o hen ddogfennau a llyfrau i ni bori drwyddynt, a llawer yn cael hwyl wrth weld enwau cydnabod yn y "Punishment Book."
Y ddau beth a dynnodd fy sylw i yn arbennig oedd y gadair grefftus a enillodd Mr David Edwards Wern Bant mewn Eisteddfod ysgol yn 1940. Pwy tybed oedd y saer? Yn ogystal mi wnes i fwynhau darllen yr erthygl a ysgrifennwyd gan Mr Trefor Vaughan, Maesydd, tra roedd o yn ddisgybl yn Fform 4 am "Hen Gloch yr ysgol." Braf yw cael ar ddeall bod yr hen gloch yn symud gyda'r plant i'r adeilad newydd.
Wrth i ni wrando ar eitemau amrywiol gan ddisgyblion yr ysgol bresennol yn canu alawon gwerin traddodiadol yn ogystal â chaneuon Dafydd Iwan a'r Beatles, fe wenodd yr haul a doedd dim angen 'submarine' melyn i ni gartrefu ynddo.
Fe fydd yn od peidio â chlywed sŵn y plant yn chwarae ar fuarth yr ysgol wrth siopa yng nghanol y pentref. Cwestiwn a ofynnwyd sawl gwaith yn ystod y prynhawn oedd: "Beth fydd yn digwydd i'r adeiladau ar safle'r hen ysgol?" Deallaf fod rhan o'r ysgol wedi ei neilltuo fel adeilad o ddiddordeb hanesyddol arbennig. A fydd hyn yn creu anawsterau?
Dw i'n siŵr y bydd egni ac afiaith y plant yn llenwi'r ysgol newydd ym mis Medi â chwilfrydedd a bwrlwm. Y disgyblion a'u teuluoedd a'r athrawon fydd yn rhoi "enaid" i'r adeilad newydd fydd yn gyrchfan amlwg i do newydd o blant y pentref. Hyderwn y byddwn ni fel cymdeithas yn eu cefnogi cant y cant yn eu cartref newydd.
Hen Gloch yr Ysgol
Trefor Vaughan Fform 4
Yn ein hysgol ni y mae cloch hen iawn. Nid cloch ysgol oedd hi yn yr hen amser, ond cloch ar dŷ fferm. Rhoddwyd hi yn anrheg i'r ysgol gan Mr Bickerton , Lloran Uchaf, rhyw bum mlynedd yn ôl.
Yn awr y mae'r hen gloch yma wedi ei gosod ar ben y darn newydd yn yr ysgol. Mr Edward Hughes, Bridge End, Llanrhaeadr a'i gosododd yno, ac y mae ef yn un o deulu o grefftwyr gwych yn yr ardal yma.
Y mae'r gloch ei hun yn pwyso tua thrigain pwys, ac arni y mae'r dyddiad 1637, ac enw'r gwneuthurwr. Credir mai cloch wedi ei chastio ydyw, ac mae yn yr Amwythig y gwnaethpwyd hi. Bu am flynyddoedd ar dalcen yr hen dŷ yn Lloran Uchaf, nes i'r amaethwr ei thynnu i lawr am nad oedd hi yn ddiogel. Ni ddefnyddiwyd hi ar y fferm ers blynyddoedd lawer, ond mae fy nhad yn ei chofio yn cael ei chanu i alw'r gweision i'r tŷ o'r caeau i nôl eu cinio.
Ond tybed beth fu ei hanes cyn hynny? Beth pe bae'r hen gloch yn gallu dweud ei hanes? Tua'r adeg y gwnaed y gloch, yr oedd Lloran Uchaf yn lle pwysig iawn yn hanes y cylch. Yno yr oedd dyn o'r enw Ifan Meredith yn byw, a bu ef neu ei dad yn cweryla gyda'r Esgob Morgan pan oedd ef yn byw yn y plwyf. Dywedir mai ef a chwynodd i'r Archesgob nad oedd William Morgan yn gwneud ei waith yn iawn.
Ond yn awr, nid oes defnydd i'r hen gloch yn Lloran Uchaf, am nad oes gymaint o weision yno, a'r rhai sydd yno yn mynd adref bob nos. Ond yn yr ysgol fe wnawn ni ddefnydd ohono am bum diwrnod o bob wythnos.
Uchod gwelir rhai o'r cyn ddisgyblion a ddaeth i'r aduniad. Yn y rhes gefn mae Mr Arthur Morris, Mr Iorwerth Lewis a Mrs Eluned Davies Jones. Yn y rhes flaen mae Mrs Dorothy Lewis, Miss Gwyneth Thomas, Mr Huw Vaughan, Mrs Clara Morris a Mrs Millicent Jones.