Trefnwyd y noson er mwyn trosglwyddo'r Prif Wobrau Llenyddol i'r Pwyllgor Gwaith, sef y Gadair, y Goron Tlws y Dysgwyr a Thlws Ieuenctid. Fel y cyflwynwyd y gwobrau diolchodd y Cadeirydd i'r gwneuthurwyr a'r crefftwyr a'r noddwyr am eu gwaith hardd a bendigedig, ond roedd anogaeth hefyd yn ei neges i gefnogi'r Eisteddfod ar y ddau ddiwrnod sef Hydref 19eg a 20fed yn Theatr Lwyn Llanfyllin, ac yn neges o anogaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dwedodd Tegwyn bod y pwyllgor wedi gweithio'n dda i gasglu'r gwobrau a gwneud y paratoadau i gyd, ond ni fydd yr Eisteddfod yn llwyddo oni bai bod cynulliad da yn y sesiynau. Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod fynd i Theatr Llwyn sy'n llawer mwy moethus nag fel yr oedd fel Neuadd Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Felly chwi ddarllenwyr dewch yn llu a dwedwch wrth eich cyfeillion a'ch cymdogion am ddod i'r wledd sydd yn eich aros.
Yn y llun cyntaf (uchod ar y chwith) gwelir Tegwyn Jones yn derbyn y Gadair ar ran y Pwyllgor Gwaith oddi wrth swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru Cangen Llanfyllin (Glyn Jones, Huw Francis, Alwyn Watkins) a Mrs Susan Jones swyddog Sirol UAC a noddodd y gwaith, a'r Crefftwr Idris Morris saer coed lleol o Langynog. Mae'n gadair hynod o hardd o goed derw Maldwyn, ac yn un o'r cadeiriau harddaf meddai Tegwyn a welodd erioed yn Steddfod Powys. Tybed pwy fydd yn eistedd ynddi ar 20, Hydref?
Yn yr ail lun gwelir y Goron o waith John Price Corns, crefftwr sy'n hen law bellach ar gynhyrchu coronau eisteddfodol, a'r noddwyr Wyn a Gordon Jones, meibion y diweddar Mr a Mrs W Jones Pendref (Joinars) Llanfyllin, sydd hefyd fel un o'r busnesau hynaf yn y dref ac yn dathlu eu canmlwyddiant eleni.
Mae'n cael ei rhoi er cof am eu mam Mrs Marie Jones, un a oedd yn gefnogol iawn i'r traddodiadau eisteddfodol ac yn arbennig felly gyda chanu corawl a phartïon. Coron o arian pur wedi'i dylunio'n ofalus yn cynnwys y nod cyfrin, y logo swyddogol, a phont sy'n arwydd o bontio rhwng cymunedau a rhwng y Cymry a'r Cymry di-Gymraeg a mewnfudwyr; hefyd mae rhedyn arni a gysylltir â Sant Myllin, a'r defnydd gwyrdd sy'n cyd-fynd â'r testun sef 'Ynni' a chymaint o bwyslais ar ynni gwyrdd y dyddiau hyn.
Yn y trydydd llun gweir y Tlws Ieuenctid, gyda'r noddwyr Eleri a Geraint Jones Llanfyllin (Eleri yn athrawes yn Y U Llanfyllin a Geraint gyda'r cwmni plymars lleol). Fel y dwedodd Eleri buasai'n braf gweld un o'i chyn ddisgyblion yn ennill y tlws hardd hwn. Gwaith cerflunydd ifanc lleol sef Steve Page o Benybontfawr ydi hwn ac wedi ei gastio mewn pres.
Yn y pedwerydd llun gwelir Tlws y Dysgwyr gyda chynrychiolwyr o'r noddwyr sef Merched y Wawr Llanfyllin ac yn eu cynrychioli mae Gwenan Jones ac Alwena Francis, eto gyda Steve Page y cerflunydd. Mae'r ddau gerflun yn debyg, ac fel planhigion yn ymagor, wedi eu hysbrydoli gan logo'r Eisteddfod, yn codi o bwynt a ffurf cwilsyn, maent yn troi a chordeddu gydag egni rhywbeth byw sy'n tyfu a datblygu. Yn y llun hefyd mae Alison Layland ar ran y Dysgwyr lleol ac un sydd wedi bod mor llwyddiannus yn y maes hwn, wedi iddi ennill Dysgwraig y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1999.
Bydd y tlysau'n cael eu harddangos yn Siop Jeni yn Stryd Fawr Llanfyllin yn ystod yr wythnos cyn yr Eisteddfod (Hydref 19/20)