|
Ar nos Sadwrn olaf y gwyliau hanner tymor fe aeth dros 50 o Ffermwyr Ifanc Llanfyllin i berfformio yn y gystadleuaeth Pantomeim yn Theatr Hafren.
Roedd y theatr yn orlawn a braf oedd gweld plant Ileol yr ardal yn cystadlu ar y noson hon, sef CFfI Llanfyllin.
Cafodd criw Llanfyllin hwyl yn perfformio. Roeddent yn llawn brwdfrydedd gan gofio mai criw ifanc tu hwnt ydynt. Cyffro oedd cael y canlyniadau. Braf oedd clywed bod Llanfyllin wedi ennill ar ôl yr holl waith caled. Mae'n diolch yn fawr i'r bobl ifanc eu hunain am eu hymroddiad, hwyl, egni a'u cyfeillgarwch. Rhaid diolch i Gwynfor, Mark a Linda am y cynhyrchu a'r tim i gyd a fuodd o gymorth mawr i'r cynhyrchiad.
Llongyfarchiadau mawr i Judy, sef Marcus Vaughan, a enillodd gwpan am yr actor gorau dan 16 oed. Da iawn ti. Diolch i bawb am roi'r cyfle i'r ieuenctid yn ein bro i gael bod mewn perfformiad a oedd mor raenus a phroffesiynol. Hwyl ym Mhort Talbot.
Cawsom hwyl ym Mhort Talbot. Cafodd Llanfyllin y drydedd wobr trwy Gymru gyfan. Enillwyd tarian am yr ochr dechnegol a chafodd Huw, Marcus a Rob Lewis eu henwebu am eu hactio. Da iawn chi.
 |