"Roedd yn dipyn o syndod i mi pan ddarllenais yn ddiweddar fod yna borthladd yn Sir Drefaldwyn. Anodd oedd credu hyn gan fod yna ddim glan mor yn y Sir, - yr agosaf 'rwy'n credu yw y Bermo, sydd yn Sir Feirionnydd. Ond wrth edrych i mewn i'r peth, mae yn ffaith anghredadwy fod yna lecyn bach yn ne-orllewin y Sir a fu yn addas iawn i adeiladu harbwr bach er mwyn ateb gofynion yr ardal.
Sut y dechreuodd pethe?
Mae'r stori yn dechrau yn Ninas Mawddwy, lle 'roedd Rowland Evans yn byw ym Mwlch-y-Rhiw. Ynghyd a gweithio ar ei fferm,'roedd Evans yn cael ei gyflogi yn rhan-amser gan Syr Robert Vaughan o Nannau. Gwaith Evans oedd torri'r coed derw ardderchog a dyfai ar y stad, a'u gwerthu.
Symud i Dderwenlas
Un diwrnod, meddyliodd Evans mor gyfleus pe gallai allforio'r coed yma i gymoedd y De, lle 'roedd galw mawr am bolion derw a physt i gryfhau to'r pyllau glo. Ar ôl ystyried yn hir, penderfynodd Evans symud ei deulu lawr yr afon Dyfi a setlo mewn tŷ fferm a elwid Morben Isaf ger Derwenlas, rhyw ddwy filltir i'r de o Fachynlleth. Y rheswm iddo ddewis y man yma oedd bod llanw'r afon yn cyrraedd y fan hyn, ac felly 'roedd yn bosib i longau hwylio ddod i fyny o Aberdyfi, eu llwytho a nwyddau, ac wedyn hwylio i bob rhan o Gymru a hefyd i Fryste a phorthladdoedd eraill yn Lloegr.
Yn gyflym iawn dechreuodd Rowland Evans adeiladu llong ar lecyn gwastad gyferbyn ei dy, ac yr oedd ei sgwner gyntaf yn barod yn y flwyddyn 1852. Aeth ymlaen o nerth i nerth, a chafodd llawer rhagor o longau eu hadeiladu yn enw teulu Evans Morban Isaf yn y blynyddoedd i ddod.
Allforio
Nawr dechreuwyd y gwaith o allforio, a deallodd Rowland Evans yn fuan iawn fod yna alw am allforio nwyddau eraill o'r ardal, yn ogystal a choed, er fod hyn yn elwa yn fawr iddo yn enwedig pan fu galw am risg derw i'w anfon i'r Iwerddon. Hefyd 'roeddynt anfon plwm o fryniau Dylife a Staylittle(yn cael ei gario o'r bryniau hynny mewn cart a cheffyl)- hwn yn mynd i Fryste i'w doddi, a llechi o chwareli Corris i Ewrop, yn cael eu cario ar gart a cheffyl i ddechrau, ac wedyn ar reilffordd Corris.'Roedd gwlanen o bob math yn cael ei allforio o Fachynlleth. Fel y dywed Dr David Jenkins : "The annual average export from Derwenlas was 500 tons of bark,40,000 feet of oak timber; 150,000 yards of oak pole for collieries, 100 tons of lead ore and 1500 tons of slate".
Mewnforio
Wrth reswm nid oedd llongau Rowland Evans yn dod yn ôl yn wag. Meddai Dr Jenkins " The main annual imports were 5000 quarts of rye and wheat,1000 tons of coal, 500 tons of culm,11000 English hides, groceries etc, and 200 tons of limestone".'Roedd y cwlwm,(glo man wedi ei gymysgu a cement a dŵr) yn llawer rhatach na glo i deuluoedd tlawd y wlad, a chalch yn angenrheidiol i wneud tir sur cefn gwlad yn fwy ffrwythlon.
Aelod o'r Capel
Er fod masnachu yn rhan bwysig o fywyd Rowland Evans, rhaid cofio hefyd ei fod wedi chware rhan bwysig yn sefydlu achos yr Annibynwyr yn Ninas Mawddwy. Wedi mynd i Dderwenlas, dywedir fod yna gyfnod newydd wedi dechrau yng nghapel Bethania. Hefyd 'roedd ei gartref yn agored bob amser i aelodau a phregethwyr. Gelwid Mrs Evans yn "Fam yn Israel", ac wedi marwolaeth y ddau, cariodd eu mab y traddodiad ymlaen.
Marwolaeth Rowland Evans
Ym mis Tachwedd 1856 digwyddodd damwain anffodus. Ar fore Dydd Mawrth, darganfuwyd corff Mr Evans ar waelod creigiau ar draeth Aberystwyth.'Does neb yn gwybod y rheswm iddo ymweld â'r dre. Ei fab John a etifeddodd y gwaith, ac erbyn 1859 bu yn adeiladu llongau am bedair blynedd. Erbyn hyn 'roedd yna lynges fach bwysig yn Sir Drefaldwyn, wedi ei hadeiladu yn gwbl o dderw'r Sir. Ond ar ôl dweud hyn mae rhaid cyfeirio at y ffaith fod y morwyr yn dod y rhan fwyaf o Aberdyfi neu'r Borth, gan fod dynion Sir Drefaldwyn yn cael eu hystyried fel "landlubbers", heb lawer o ddiddordeb yn y môr.
Y Diwedd
Tua diwedd y 19eg ganrif daeth y diwydiant adeiladu llongau ar yr afon Dyfi yn Nerwenlas i ben. Rhan o'r rheswm oedd bod llongau mawr o Loegr ac America yn cymryd drosodd, ac yn defnyddio glan mor Aberdyfi. Hefyd penderfynwyd adeiladu rheilffordd o Aberystwyth i Fachynlleth, ac adeiladwyd pont fawr i groesi'r afon ger Glandyfi er mwyn creu gwasanaeth i'r Bermo a Gogledd Cymru. Erbyn hyn 'roedd yr awdurdodau wedi ail-gyfeirio'r afon Dyfi er mwyn gwneud adeiladu'r rheilffordd yn haws. Felly gadawyd y porthladd bach yn sych. Ychwanegwyd at y sefyllfa pan syrthiodd John Evans oddi ar ei geffyl, a bu farw yn union.
Felly dyna ddiwedd i fenter lewyrchus a fu mor llwyddiannus am yn agos i ugain mlynedd, - canlyniad i weledigaeth a dyfalbarhad y gŵr uchelgeisiol o Ddinas Mawddwy, - Rowland Evans, Morben Isaf."