|
Roedd un ar hugain yn derbyn y Fedal Gee, ac yn eu plith Mrs Marian Roberts, gohebydd Yr Ysgub yng Nglynceiriog a Mrs L M Jones Llansilin, un o olygyddion Yr Ysgub. Cafwyd gair o groeso gan y Parch Wayne Roberts Gellifor, Ysgrifennydd y Pwyllgor, cyn i bawb fwynhau cyflwyniad ardderchog gan blant Ysgol y Garnedd Bangor.
Cyflwynwyd Beibl iddynt gan Aled Davies ar ran Cyngor Yr Ysgolion Sul. Yna cyflwynwyd y medalau gan un o ddisgynyddion Thomas Gee ar ran teulu Thomas a Susannah Gee, gyda chymorth Llywydd newydd y Pwyllgor y Parch R Glyn Williams. Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Parch Gerald Jones, y Cyn Lywydd yn methu bod yn bresennol oherwydd damwain, ac anfonwyd colon ato ef a'i wraig. Hefyd cyflwynwyd medal er anrhydedd am wasanaeth arbennig i'r Ysgol Sul gan Aled Davies i Rheinallt Thomas ac fe fydd Mrs Elizabeth James yn derbyn medal am ei gwasanaeth arbennig yn hwyrach yn y mis ym Mynachlog Ddu. Yna cafwyd anerchiad byr gan y Llywydd cyn i bawb ymuno i ganu'r emyn 'Am yr Ysgol rad Sabothol'. Wedi'r gwasanaeth roedd cyfle i bawb gymdeithasu a sgwrsio dros baned yn Ysgol Friars ac wrth gwrs, roedd y camerâu i gyd yn brysur iawn! Llongyfarchiadau Marian a Laura ar yr anrhydedd a diolchwn iddynt am eu ffyddlondeb i'r Ysgol Sul ar hyd eu hoes.
 |