Y cemegwyr ifanc Ebrill 2004 Disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn fuddugol.
Y disgyblion: Marc Jones, Steffan Willis, Sally Kitchen a Rosie Laceby-Common gyda'u hathrawes Dr Sally Brown, a enillodd y wobr gyntaf o £100 yng Ngŵyl Gemeg Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Mae 46 o wyliau fel hyn o amgylch y Deyrnas Gyfunol ac fe arddangoswyd gallu'r disgyblion drwy wneud argraff ardderchog ar y beirniad mewn dwy her dros y diwrnod.
Llongyfarchiadau calonnog iddyn nhw a'u hathrawes.