BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Ray Pickett, Rhiwlas Periw 2006 - Sialens Elusennol
Gorffennaf 2006
Hanes Ray Pickett ar daith arbennig yn ne America, yn cerdded Llwybr yr Inca ym Mheriw.

Y llynedd bu Ray Picket o Dy Newydd, Rhiwlas, yn codi arian tuag at yr elusen Action Aid a llwyddodd i godi £2,700 ac am wneud hynny llwyddodd i ennill taith gerdded fythgofiadwy, sef Llwybr yr Inca ym Mheriw.

Llwybr yr Inca yw'r daith enwocaf yn Ne America. Mae hon yn daith hynafol iawn sy'n cysylltu Cusco, prifddinas yr Incas â'r hen ddinas goll Machu Picchu. Mae'r lwybr wedi'i adnewyddu i'w hen ogoniant ac mae'n mynd trwy dirwedd fynyddig yr Andes. Dyma Ray yn sôn am ei brofiadau:

"Mae'n braf i mi ddweud i mi lwyddo i gwblhau Llwybr yr Inca heb frifo na salwch. Tra'r oedd yr ymweliad â Machu Picchu yn fendigedig, yr uchafbwynt i mi oedd yr ymweliad â phrosiect a ariannwyd gan Action Aid. Aeth criw ohonom i weld cymuned Anansaya. Roedd y daith yn cymryd dwy awr dros ffyrdd garw a chyntefig. Mae'r gymuned hon wedi derbyn cymorth gan Action Aid. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygiad y plant trwy wella maeth, dŵr glan ac addysg.

Roedd hwn yn ymweliad emosiynol iawn a daeth y gymuned gyfan allan i'n croesawu, a theimlem fel y teulu brenhinol. Mae'n anodd rhoi i eiriau yr hyn a deimlem, profiad emosiynol iawn.

Roedd nifer o anerchiadau o groeso gan arweinwyr y pentref. Yn dilyn hyn fe'n diddanwyd â chanu, dawnsio a barddoniaeth a oedd yn adlewyrchu diwylliant yr Andes ac wedyn aethom ar daith o gwmpas y pentref.

Yn gyntaf aethom i'r ysgol ac wedi'n croesawu cawsom sesiwn dda o gwestiynau ac atebion. Gofynnwyd i ni ganu wrthynt ac wrth lwc roedd hen athro yn ein grŵp a chanwyd "Pen, ysgwydd, coes a throes" a braf oedd gweld y plant yn ymuno â ni.

Dysgasom ychydig o Saesneg iddynt a dysgasom ninnau ychydig o Quechan, yr iaith frodorol, ac maent i gyd yn siarad Sbaeneg. Aethom wedyn i weld yr ystafell gyfrifiaduron. Roedd 4 cyfrifiadur yno, wedi'u hariannu gan Action Aid ac roedd y plant i gyd yn edrych yn brofiadol iawn arnynt er nad oeddynt wedi'u cael ond ers mis."

Erthygl gan Ray Picket


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy