|
Tybed a fydd ein darllenwyr yn adnabod y ddau uchod, dau sydd yn weithgar iawn gyda'r Ysgub yn y fro, ac fe'u gwelir bob blwyddyn yn y Ffair ac yn y Cyfarfod Blynyddol? Syrpreis bach iddyn nhw hwyrach yw gweld hyn yn Yr Ysgub ond daeth deryn bach a'r newyddion yma i'r Golygydd a chytunwyd i'w llongyfarch ar ddathlu eu Priodas Ruddem fydd yn digwydd ar Fehefin 24ain. Priodwyd hwy yng Nghapel Soar Llansilin a'r wledd briodasol yn Neuadd Llansilin. Aethant i Bournemouth ar eu mis mêl. Mae ganddynt ddau fab, Alun a Dylan, Alun yn Gynorthwy-ydd Gofal yn Hospis Tŷ Gobaith a Dylan yn Reolwr Prosict gyda chwmni adeiladu ym Manceinion. Mae hefyd yn digwydd bod yn benblwydd priodas ruddem chwaer efaill Dewi, Buddug a Brian Luke sy'n nawr yn byw yn Wellington, Sir Amwythig. Priodwyd hwy ar Fai 22ain 1965 yng Nghapel Seion Croesoswallt a'r wledd yn Neuadd y Seiri Rhyddion Croesoswallt. Aethon nhw i Ardal y Llynnoedd ar eu mis mêl. Mae ganddyn nhw un mab, Nigel sydd gyda phartner Eirian ac ŵyr Josh. Maent yn byw yn Wellington lle mae Nigel yn fecanic ac mae Eirian yn y proffesiwn meddygol. Wel dyna ni â'r wybodaeth a ddaeth gan yr aderyn bach. Caiff Dewi a Hefin weithio allan pwy ydoedd!! Dymuna'r Ysgub ymuno a'r teulu yn y cyfarchion a'r llongyfarchiadau a dymuno pob bendith iddynt i'r dyfodol, ac ymlaen nawr am yr Aur!!
 |