|
Cwblhaodd Ursula Owen, Cileos, Penybontfawr a Julie Lloyd Evans o Frithdir, y marathon mawr yn Efrog Newydd ddiwedd 2005. Gyda'i gilydd, llwyddasant i godi'r swm anhygoel o £7603.10 i'r elusen Macmillan Cancer Relief. Bydd yr arian yn mynd tuag at brosiectau lleol yn Sir Amwythig. Hoffai Julie ac Ursula ddiolch i'w teuluoedd, ffrindiau a'r holl bobl a'u cefnogaeth hwy. Dywedodd Ursula, "Roedd yn brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio. Cawsom gefnogaeth wych wrth godi arian at yr achos teilwng yma". Dywedodd Elodie Home, Rheolwr Codi Arian yr elusen, "Roedd y merched yn ardderchog yn cymryd rhan a chodi cymaint o arian i helpu
pobl sy'n byw â chancr. Mae pobl yn dweud wrthym fod cefnogaeth nyrsys Macmillan yn hollbwysig pan ddarganfyddir bod ganddynt gancr, a gallwn helpu llawer mwy o gleifion pan fyddwn yn derbyn cymorth fel hyn."
 |