 |
Mae wedi ennill dros 40 o gadeiriau ac nid yw rhoi ei gadeiriau i ffwrdd yn beth newydd i'r bardd hwn.
Yn yr achos arbennig yma roedd wedi rhyfeddu at safon y cystadlaethau a'r croeso a dderbyniodd gan bobl Powys, a'i ddymuniad oedd i'r gadair fod yn eiddo i'r bobl leol, ac i'r cyfeiriad hwnnw fe awgrymodd bod y gadair yn cael cartref yn yr ysgol uwchradd leol, sef Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Roedd yn llawn canmoliaeth i'r disgyblion lleol o'r ysgolion cynradd yn ogystal â disgyblion yr Ysgol Uwchradd, a theimlodd y byddai'n briodol i'r gadair gael ei gweld yn barhaol yn yr Ysgol Uwchradd.
Mewn cyfarfod arbennig o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys Llanfyllin a'r Cylch mynegodd y Cadeirydd Mr Tegwyn Jones ei ddiolch i Dafydd Guto Ifan (oedd ddim yn gallu bod yn bresennol) am ei garedigrwydd, a chyflwynodd y gadair i Mr Carl Mineher, y Pennaeth, ac ymatebodd yntau ei bod yn anrhydedd yn wir i dderbyn yr anrheg yma, a fydd bob amser i'w gweld i'r cyhoedd yn Theatr Llwvn ac yn ei defnyddio mewn Eisteddfodau yn yr ysgol.
Cafwyd rhaglen fer o eitemau ac uchafbwyntiau o'r Eisteddfod gan yr ysgol dan arweiniad rhai o'r staff a rhieni (Parti Cerdd Dant, gyda chymorth Margaret Davies a Gwenan Jones; Llefaru unigol gan Elen, eitem grwp offerynnol gyda chyfeiliant Huw Davies, a Phedwarawd Bechgyn i gyfeiliant Gwenan Jones - a phob un o'r rhain wedi derbyn canmoliaeth uchel yn yr Eisteddfod.
Gweinyddwyd bwffe ysgafn gan staff yr ysgol. Diolchodd Mr Tegwyn Jones i bawb oedd wedi cyfrannu tuag at lwyddiant y noson.
Dyma ddyfyniad allan o lythyr y bardd a dderbyniwyd cyn diwrnod y cadeirio:-
"Gofynnaf am un gymwynas fach, gan mai eleni yn Llanfyllin am y degfed tro y cynhelir Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, pryd y cynigir Cadair hardd a luniwyd o bren derw a dyfodd yn y dalaith, bod hon, sef y Gadair Eisteddfodol, a fu gymaint rhan o dir a phridd Powys, yn cael ei chadw am byth yn Llanfyllin, o bosib yn yr Ysgol Uwchradd, neu'n Theatr Llwyn, ac hyn. Gyfeillion da, er talu teyrnged, a chlod i weithwyr yr eisteddfodau ddoe ac heddiw a gynhaliwyd yn Llanfyllin (1893-2007), gan ddiolch o waelod calon iddynt am eu hernes a'u hymdrechion drwy'r blynyddoedd i gadw'r iaith Gymraeg yn gyfrwng creadigol fyw. Yr ydwyf yn cael sêl bendith fy nghymar Linda yn hyn o beth, ac yn gobeithio'n wir y gwnewch chwi'n wir gytuno efo ein cais, ac y bydd Y Gadair yn ysbrydoli rhai o blith Cymry Llanfyllin, a'r dalaith, i ddal ati i gefnogi'r Eisteddfod yn y dyfodol."
A dyma ddetholiad allan o lythyr a gafwyd eto gan y bardd wedi i'r Eisteddfod fod:-
"Yn ystod ein hymweliad hefo Steddfod Talaith a Chadair Powys 'leni mwynhawyd ymweld hefo'r Arddangosfa Celf a Chrefft. Sôn am dalenta' bywiog! Ac mi 'roedd y croeso'n hen dre' farchnad Llanfyllin yn tu hwnt o Gymreig, hefo agosatrwydd gwledig yn perthyn iddo. Bu inni wirioneddol fwynhau'r cystadlu ar y llwyfan, a oedd o safon uchel iawn (sy'n gwneud gwaith beirniad yn anodd debygaf if) a chafwyd Arweinydd hwyliog, un tan gamp, sef Mair Parc, y Bala, ac anodd oedd gorfod gadael Theatr Llwyn, a'i throi hi am adra. A gaf i ddiolch i bob un ohonoch a fu wrth y gwaith paratoi. Mi 'roedd y dawnswyr troednoeth (Seremoni'r Cadeirio) a'r Llaw Forwynion, yn arbennig o dda, a braint oedd ca'l cyd-ista hefo Trefor Cynllaith, ac yntau fel finna', ar un amser yn lyfrgellwr. Diolchiada' rif y gwlith i'r Orsadd, am eu cyfarchion, ar dafod leferydd, ac ar gân, i'r telynorion, a Meistresi'r Gwisgoedd am wisgo dyn bychan sy' ar brydia' yn fwy o fwgan brain nac dim byd arall, - fy nghymar Linda sy'n dweud! Rhaid diolch i'r saer medrus, a luniodd gadair mor hardd, i'r Undeb Amaethwyr am eu haelioni, ac i'r cyfeillion da o Lanfyllin a roddodd y wobr ariannol."
 |
 |