Roedd capel hynafol Pendref, Llanfyllin yn gyffyrddus lawn ar amgylchiad Ordeinio a Sefydlu'r Parchedig J. Gwyndaf Richards yn Weinidog Bro yn y cylch ar brynhawn Sadwrn braf sef 21ain o Hydref 2006.
Roedd y pererinion wedi dod o bell ac agos i fod yn rhan 'r gwasanaeth hwn. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchg. Raymond Hughes, Gweinidog Bro cyntaf, ac yr unig un ers y sefydlwyd yn 1988 yn Nyffryn Tanat, yn fedrus iawn fel arfer. Erbyn hyn mae'r weinidogaeth hon wedi ehangu i ardaloedd cyfagos. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Parchg. Stanton Evans a Parchg.Gwilym O. Jones, Croesoswallt, Parchg. R Gareth Huws, Bala a Mr Gwilym Jones, Llanrhaeadr Y.M. a Mr Tom Ellis, Llanfyllin.
Arweiniwyd y rhannau Ordeinio gan y Parchg. Athro Euros Wyn Jones, Llangefni, Coleg yr Annibynwyr. Wedi darllen tystiolaeth Coleg yr Annibynwyr Cymraeg, a chymeradwyaeth Capel Sardis, Eglwys magwraeth yr ymgeisydd, Cyfundeb Maldwyn a hefyd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg drwy lythyr gan yr Ysgrifennydd Parch Ddr. Geraint Tudur ac yna adroddwyd hanes yr Alwad gan Mr Robin O. Hughes, ysgrifennydd Gweinidogaeth Bro ac aed ymlaen i Ordeinio a Sefydlu Gwyndaf i fod yn Weinidog i Iesu Grist yn y fro hon.
Ymatebodd Gwyndaf i gefnogaeth ei deulu, y gymdogaeth leol, Eglwysi Seilo a Sardis, y gymdogaeth yn Lerpwl a Bethel Heathfield Road, Cyd-efrydwyr ar y cwrs byr yn Lerpwl a hefyd yng Ngholeg Yr Annibynwyr yn Aberystwyth wrth draed yr Athro Emeritws Parchg. Gareth Watts a'r Athro Parchg. Euros Wyn Jones. Cyfeiriwyd hefyd at anogaeth y tri gweinidog fu ac sydd yn ei fugeilio sef y diweddar Parchg. D. Glyn Lewis, Sardis, Parchg. Ddr. D. Ben Rees, Bethel, Lerpwl a Parchg. Raymond Hughes.
Offrymodd y Parchg. Peter W. Williams, Carno Weddi'r Ordeinio, cyn i Parchg. D.Gerald Jones, Y Trallwng ddarllen Emyn yr Urddo o waith Cadvan "Iôr y Nef ymwêl â'r ddaear" ar dôn o waith "Cynogfab" Llangynog. Roedd y bregeth - y Siars a draddodwyd gan Parchg. Ddr D. Ben Rees - yn amserol a phwrpasol iawn. Darllenwyd Emyn o waith y diweddar Parchg D. Glyn Lewis "O Arglwydd rho i'th eglwys wyw gael prawf o nerth dy ysbryd byw" gan Parchg. Richard H. Lewis Bow Street.
Croesawyd y Gweinidog newydd gan amryw o gynrychiolwyr gan gynnwys Parchg. W. J. Edwards, Bow Street ar ran Cyfundeb Annibynwyr Maldwyn, Mr Isfryn Williams, Croesoswallt (Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf), Parchg. Patrick Slattery (Talaith Cymru o'r Eglwys Fethodistaidd), Mr Emrys Griffiths (Eglwysi Annibynnol y Cylch), Mr John Talog Davies (Eglwysi Presbyteraidd y Cylch a Gweinidogaeth Bro, Mr Thomas Morris, Llanrhaeadr Y.M. (Eglwysi Fethodistaidd y Cylch, Parchg. Edward Yendall (Egiwysi Esgobol y Cylch) a Mrs Shan Mayor, Llanfyllin (Eglwys Gymunedol Llanfyllin).
Daeth y cyfarfod i ben yng ngorfoledd sain lleisiau'r gynulleidfa yn canu "Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd" ar y dôn "Cwm Rhondda". Darllenwyd yr emyn gan Mrs Alwena Francis, Llanfyllin, un fel fagwyd, fel Gwyndaf yng ngolwg Dolwar Fach, cartref yr emynyddes, Ann Griffiths. Y Parchg Iwan P. Lewis, Cegidfa a offrymodd y Fendith Apostolaidd.
Arweinydd y Gân oedd Mr Gwylfa Jones a'r organydd oedd Pauline Page-Jones. Y Tywyswyr o dan ofal Mr Peter Williams oedd Meistri Gwynedd Morris, Alwyn Watkins, Richard Lloyd, Elwyn Roberts a Mrs Olwen Jones. Cafwyd Te Croeso yn Ffreutur yr Ysgol Uwchradd wedi ei drefnu gan chwiorydd Eglwysi Llanfyllin gyda chefnogaeth chwiorydd y ddwy eglwys ar hugain sydd yn yr ofalaeth.
Trefnwyd y cyfarfod gan Bwyllgor Gweinidogaeth Bro Dyffrynnoedd Tanat, Cain, Efyrnwy a Llanarmon o dan gadeiryddiaeth Mr John Talog Davies a'r Ysgrifennydd Mr Robin O. Hughes.
Bydd Gwyndaf yn dechrau ar ei weinidogaeth yn y Flwyddyn Newydd a dymuna'r Ysgub bob llwyddiant iddo yn ei waith a dymunir pob bendith i'r Parchg. Raymond Hughes yn ei ymddeoliad.