|
Awdur y llyfryn yw Mr lorwerth Davies, Cyn-Lyfrgellydd Sirol Sir Drefaldwyn, ac sydd a'i wreiddiau yn Nyffryn Tanat, ond sydd yn byw yn awr ym Mhenybont-ar-Ogwr. Fe gyhoeddir y Cofiant yma hanner can mlynedd wedi i'r athro a'r arweinydd Eisteddfodau enwog yma farw. Ganwyd Pat O'Brien yn Llanfihangel ym 1910 i ferch leol Mary Arthur ac a briododd â Gwyddel James O'Brien a oedd yn gweithio yng ngwaith dwr Llanwddyn ar y pryd. Mae dirgelwch hyd heddiw ynglyn â'r hyn â ddigwyddodd i James O'Brien, oherwydd fe ddiflannodd cyn i'w fab bach gael ei eni, ac ni chlywyd dim am y tad wedi hynny. Cafodd Pat ei ddwyn i tyny yn Llanfihangel gan ei fam a'i nain, a daeth ymhen blynyddoedd yn ysgolfeistr i Ysgol y Green yn Llanrhaeadr ym Mochnant yin 1933 wedi cyfnod yn Ysgol Maentwrog. Treuliodd yr ugain mlynedd nesaf yn Llanrhaeadr ac yn y cyfnod yma y daeth i amlygrwydd fel un o'r arweinyddion mwyaf talentog ar Iwyfan Eisteddfod. Golygodd y cofiant yma lawer o waith ymchwil i'r awdur, a cheir cip ar ddoniolwch a wit Pat O'Brien yn dial o'r straeon. Sonia am Pat yn cyhoeddi ar Iwyfan Eisteddfod yn rhywle fod yr unawdydd yn mynd i ganu 'How vain is man', 'neu', meddai Pat, 'yn y Gymraeg, mor fain yw dyn'. Fe gofir am Pat O'Brien yn Eisteddfod y Foel ar un achlysur, a'r lle yn orlawn, gyda hogiau direidus wedi cyrraedd yno o'r Cann Office Hotel i gefn y neuadd. Yr oedd Pat yn rhestru ffugenwau y rhai oedd i gystadlu ar yr Her Unawd, a gofynnai i'r rhai oedd yn bresennol nodi hynny fel y galwai hwynt. 'A yw Mab y Mynydd yma' meddai, a daeth llais aflafar o gefn y neuadd yn ateb 'yma'. Ac meddai Pat, 'Ar mynydd ydi dy le di hefyd.' Chwim ei feddwi a chwim ei dafod oedd Pat yn wir. Bu farw'n wr ifanc 43 oed a da o beth ydyw i ni ei gofio ar ddyfodiad yr Eisteddfod Genediaethol i Faldwyn. Gobeithir y bydd y Cofiant yn barod i'w werthu yn yr Eisteddfod ym mis Awst. J Talog Davies
 |