|
Roedd Dydd Sul Mehefin 15fed eleni yn ddiwrnod hynod o braf i'r bererindod flynyddol gyda'r Weinidogaeth Bro Dyffrynnoedd Tanat, Cain, Efyrnwy a Llanarmon, ac oherwydd hynny roedd y daith yn un bleserus dros ben o dan arweiniad y Parch Gwyndaf Richards ac yng ngofal y gyrrwr hynod Geraint Williams sydd yn gallu gwneud gwyrthiau gyda'i fws ymhob amgylchiad anodd. Mae'n syndod fel y mae'r pererinion yn ffeindio llefydd sydd yn gallu achosi problemau i'r gyrrwr.
Roedd yn ddiwrnod hir rownd y cloc ac yn daith eithaf pell ac yn siŵr wedi bod dros 200 o filltiroedd, ond roedd pawb i weld wedi mwynhau. Casglwyd y ffyddloniaid o Lanrhaeadr, Llangynog a Llanfyllin ac yn llwyth o 44 er y gallai wedi bod yn 50 oni bai am resymau oedd wedi rhwystro rhai.
Cafwyd ennyd ar y ffordd i lawr y Llanfair ym Muallt ger yr afon i ymestyn y coesau, cyn gyrru 'mlaen i Lanymddyfri, lle roedd maes parcio cyfleus tu ôl i'r gwesty croesawgar y Castell, a lle mwynhawyd cinio blasus mewn ystafell foethus. Cafwyd stôr o wybodaeth gan Gwyndaf ar y bws fel yr oeddem yn teithio lawr i'r de - diddorol dros ben.
Cyn mynd yn ôl ar y bws aethpwyd i weld y cerflun dur ysblennydd oedd wrth ochr y castell ac yn gwarchod y dref a'r maes parcio, sef cerflun o Llywelyn ap Gruffydd Fychan, un o gyfeillion a chefnogwyr Owain Glyn Dŵr a laddwyd yn Llanymddyfri gan Harri'r Pedwerydd pan oedd yn gyfnod o drai ar ymdrechion Owain Glyn Dŵr i ennill annibyniaeth i Gymru.
Ymlaen a'r pererinion wedyn am Bantycelyn a Phentre Tŷ Gwyn, lle roedd angen sgiliau arbennig Geraint. Cafwyd croeso brwdfrydig gan y teulu Williams - gŵr yn 7fed cenhedlaeth ers amser William y Pêr Ganiedydd, a gweld yr hyfryd fan a cherdded i'r tŷ hanesyddol hwn, lle bu William yn cynhyrchu dros 800 o emynau a lle cafodd 8 o blant!
Yna oedfa fer - cymanfa fer mewn gwirionedd - yng Nghapel Pentre Tŷ Gwyn dan arweiniad Gwyndaf ac Eirlys ei briod yn ddeheuig iawn wrth yr offeryn, a Mr a Mrs Williams yn rhoi marciau llawn i'r cantorion o Sir Drefaldwyn ! Diolch i Gwyndaf am ei baratoadau trylwyr. Roedd yn gapel hynod o hardd a ffenestri lliw arbennig yno.
Ffwrdd a ni wedyn a Geraint yn cadw golwg manwl ar y cloc am Aberystwyth trwy Aberaeron a phan gyrhaeddwyd yr arfordir roedd y golygfeydd yn wych. Cyrraedd Llety'r Parc yn Llanbadarn Fawr a chael pryd i siwtio pawb - rhai yn cael paned neis o de yn reit barchus ond eraill a chyllyll a ffyrch yn mwynhau eu hunain. Yn y llun o'r grŵp gwelir hwy y tu allan i'r man hwn cyn cychwyn ar y ffordd adref.
Talwyd diolchiadau cynhwysfawr ar y bws gan Mr Gwilym Tibbott a chyrhaeddodd pawb yn ddiogel yn y man lle cychwynnwyd. Diwrnod da bendigedig i'w gofio a'i drysori.
 |