|
Yn ystod mis Gorffennaf mae plant naw o ysgolion cynradd gogledd Sir Drefaldwyn wedi bod wrthi'n recordio hwiangerddi Cymraeg, gyda'r bwriad o'u cyhoeddi cyn bo hir ar CD.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Cyswllt Celf, Llanfyllin, corff sydd wedi trefnu a noddi amryw o brosiectau yn ysgolion y Sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Daeth y syniad yn wreiddiol gan un o aelodau Bwrdd Cyswllt Celf, Gary Northeast o Ddolanog. Roedd wedi sylwi fod ei ddwy ferch fach bob amser yn dewis CD lle'r oedd plant ifanc yn canu arni yn hytrach na CD gydag oedolion yn canu. "Os ydyn ni am weld plant ifanc yr ardal yn dysgu'r caneuon hyn, mae'n edrych yn debyg eu bod yn llawer mwy tebygol o wneud hynny drwy wrando ar leisiau plant na neb arall!" meddai.
Gwahoddwyd Arfon Gwilym i gynghori ynglŷn â'r caneuon ac i gydlynu'r prosiect gyda'r ysgolion. "Mae hwn wedi bod yn bleser pur i'w drefnu," meddai. "Mae'n hawdd i ni gymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod yr hen ganeuon hyfryd yma. Ond y gwir ydi nad yw'r caneuon yn cael eu pasio ymlaen o un genhedlaeth i'r llall fel y buont, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cyfran uchel o'r rhieni yn ddi-Gymraeg yn y lle cyntaf. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn gwneud rhywfaint o iawn am y diffyg.
"Mae'r cydweithrediad a gawson ni gan bob ysgol wedi bod yn wych - a pherfformiadau'r plant eu hunain yn arbennig iawn. Dwi'n gobeithio fod y plant hefyd wedi mwynhau - er bod yn rhaid stopio ac ail-recordio llawer os oes lori fawr neu awyren yn mynnu mynd heibio ar y pryd! Un peth oedd yn galondid mawr oedd clywed y plant yn canu'r caneuon yn y buarth wedyn amser chwarae."
Bydd cryn 40 o ganeuon ar y CD i gyd, yn amrywio o rai adnabyddus fel 'Dacw Mam yn Dŵad' a 'Mi welais Jac y Do" i rai llai adnabyddus fel 'Ton Ton Ton' a 'Tali Tali'. Bydd y CD ar werth ym mis Medi, i rieni ond hefyd i'r cyhoedd yn gyffredinol drwy'r siopau. Dylai fod yn arbennig o ddefnyddiol i rieni di-Gymraeg sy'n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg y cylch.
Cymerwyd rhan gan ysgolion Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pennant, Llanwddyn, Llanfihangel, Llanfyllin, Pontrobert, Llanfair Caereinion, Llanerfyl a'r Banw.
Manylion pellach: Cyswllt Celf 01691 648929 neu Arfon Gwilym 07974 935755
 |