|
Mae Eglwys newydd ar fin cychwyn yn Llanfyllin - Eglwys Gymunedol fydd yn cyfarfod bob Sul ar wahan i'r Sul olaf yn y mis pryd bydd cyfarfod eto yn yr lnstitiwt am 4.45yp tan 6.30yh (te a gweithgareddau). Bydd croeso yn eich disgwyl gyda choffi a d'oughnuts' yn y cyfarfod ar Ebrill l3eg ac oedfa'n dilyn am 11.15yb. Cefnogir y gwaith gan Eglwys Pentecostaidd Y Drenewydd ac arweinir gan Darren a Shan Mayor ac mae deg ar hugain o unigolion o bob oedran wedi ymrwymo yn y gwaith. Mae'r Eglwys Gymunedol eisiau rhoi croeso cynnes Cristnogol i bob oedran yn y gymdeithas. Tua wyth mlynedd yn ôl, teimlodd Darren a Shan fod Duw eisiau nhw i ddod yn ôl i Lanfyllin i helpu'r Cristionogion lleol yn eu gwaith yn yr Eglwysi a'r Capeli. Ond er drych am waith doedd dim cyfleoedd. Yn y diwedd ar ôl gweithio gydag Eglwys yng Nghaerdydd, am bedair blynedd aeth Darren a Shan i weithio efo Impact a byw yn y Drenewydd lle dechreuson nhw addoli yn yr Eglwys Bentecostaidd. Fel y digwyddodd fe gwrddwn nhw â Christnogion o ardal Llanfyllin. Gofynnodd y Parch Alan Hewitt iddyn nhw ddechrau grwp beiblaidd a gweddi ganol wythnos yn yr ardal. Ar ôl tair blynedd teimiad pawb oedd bod yr amser wedi dod i ddechrau cwrdd ar Ddydd Sul. Felly os yr ydych chi ddim yn addoli yn y Capeli a'r Eglwysi eraill yn yr ardal, cewch ddysgu rnwy am Ise ac addoli Duw efo ni, yn yr Eglwys Gymunedol mewn ffordd greadigol a pherthnasol. Fe fydd na groeso cynnes i bawb, bob Dydd Sul yn yr Institiwt.
 |