BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Ysgub
Delhi yr India India yn Galw
Hydref 2004
Gair gan Ffion Thomas o Lanwddyn sy'n treulio cyfnod yn yr India ar hyn o bryd.
Helo a chyfarchion o'r India bell! Rydw i wedi bod yma tua 10 diwrnod erbyn hyn efo tair merch arall oedd yng Ngholeg yr Iwerydd efo fi.

Glaniom yn Delhi ar y 6ed o Fedi. Roedd hi'n brysur ac yn boeth ofnadwy (tua 40C). Treuliom ddiwrnod a hanner yno yn cerdded o gwmpas y 'bazaars' ac yn gweld y llefydd twristaidd fel yr hen gaer goch, y senedd-dy a themlau Baha'i a Hindu. Roedd hi'n ben-blwydd ar y Duw 'Krishna' felly roedd y teml Hindu yn llawn pobl a blodau lliwgar (offrwm i'r Duw).

Ar ôl taith bws nos 14 awr cyrhaeddom Manali, tref eithaf fach yng Ngogledd India (talaith Himachal Pradesh). Rydym yma i weithio efo plant yr ardal fel rhan o brosiect cafodd ei sefydlu dair blynedd yn ôl gan ddyn oedd yn dod o'r ardal yn wreiddiol ond oedd wedi symud i Gymru cyn mynd i Goleg yr Iwerydd. Cyfarfom ag Ankit a Dev Raj, pobl sydd am ein cynorthwyo efo'r prosiect yma yn Manali.

Erbyn hyn rydym wedi trefnu ein amserlen ac yn gweithio mewn tri lle gwahanol. Y cyntaf yw cartref plant amddifad 3 cilomedr i ffwrdd ble mae 18 o blant rhwng 4 a 15 mlwydd oed. Mae'r plant yn dod o gefndiroedd gwahanol ond yn siarad Hindi ac ychydig o Saesneg. Er bod yna wahaniaeth mawr yn yr oedrannau maen nhw'n dod ymlaen fel un teulu. Rydym yn chwarae gemau a gwneud crefft efo nhw.

Yn ail yw ysgol breswyl Budaidd i blant tlawd o'r ardaloedd mynyddig o gwmpas. Rydw i'n dysgu Saesneg i blant 4 oed hyd at 18, ond nid ar yr un amser! Mae plant Budaidd yn cael eu cyflwyno i fynach lleol pan yn ifanc ac mae'r mynach yn rhoi ei enw ar y plentyn fel enw cyntaf. Gan fod y Dalai Lama yn y talaith hon (mae wedi ffoi o Dibet) mae gan y rhan fwyaf o'r plant yr un enw cyntaf â fo, Tenzin, sy'n gwneud hi'n anodd iawn i gofio pwy ydy pwy, er bod ganddynt ail enwau gwahanol i'w gilydd. Dydym heb ddechrau gweithio yn y trydydd ysgol eto, ysgol dydd Budaidd, gan eu bod nhw yng nghanol arholiadau.

Mae yr ardal yma llawer brafiach na Delhi mewn sawl ffordd. Mae'r tymheredd yn brafiach ac mae llawer o'r bobl yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i ni deimlo'n gartrefol. Mae'n ardal fynyddig iawn ac mae coedwigoedd ym mhob man eithaf tebyg i gartref, ond bod mynyddoedd yr Himalayas ychydig yn fwy na'r rhai adref!

Gobeithiaf ysgrifennu eto mis nesaf efo mwy o newyddion o India, gan gynnwys yr Ŵyl rydym wedi cael ein gwahodd iddi y penwythnos yma a hefyd y gwersi coginio mae gwraig Dev Rai wedi addo rhoi i ni!

Hwyl am y tro, Ffion.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy