Roedd yr Eglwys yn Llansilin yn llawn i'r pedwar perfformiad o'r pasiant - Cronicl o Lansilin - ac ni chawsant eu siomi. Bu'r cwmni'n ymarfer am wythnosau, a rhoisant wledd bydd yn anodd ei guro.
Bras hanes ydoedd o Eglwys Llansilin o tua 500 O.C. tan y presennol, a phwy feddyliai bod ardal mor fach â chymaint o hanes diddorol yn perthyn iddi. Wrth gwrs ni wyddys dim o hanes Silin, 'does dim cronicl am y saint cynnar ond mai mynaich oeddynt yn sefydlu eglwysi dan yr hen Eglwys Geltaidd.
Awdur y pasiant oedd y Ficer y Parchedig Christopher Carter ac ef gyfansoddodd rhan fwyaf o'r geiriau i'r caneuon. Y mae'n cyfaddef iddo gael ychydig o gymorth, ac er mai Saesneg oedd yr iaith eto cofiodd mai Cymry fyddai'r cymeriadau ar hyd yr oesoedd ac enwau Cymraeg oedd ganddynt.
Y Ficer gymerodd ran Silin a chanodd benillion o eiddo'i hun i agor y pasiant. Cawsom gip ddychmygol o helynt codi Clawdd Offa, codi'r eglwys a'r garreg gyntaf yn y deuddegfed ganrif. Gan fod Llansilin ar y ffin rhaid oedd trafod cyfreithiau'r ddwy wlad a chawsom weld y pendefigion yn cyfarfod wrth fwrdd y Tri Arglwydd i'w penderfynnu. Wrth gwrs gwrthryfel Owain Glyndwr ddaeth a Llansilin i'r amlwg, gweld llosgi Sycharth a'r Llan yn effeithiol dros ben, a phan ail-godwyd yr Eglwys rhoddodd Gwenhwyfor rodd o ffenestri lliw.
Gyda dyfodiad y Tuduriaid yn Frenhinoedd a thorri oddi wrth Eglwys Rhufain a gorfodi cyfreithiau Saesneg daeth anghydfod rhwng ac ymysg teuluoedd yr ardal ac ymhen amser y Rhyfel Cartref gyda milwyr Cromwell a Siarl I yn yr ardal. Unwaith eto difrodwyd yr Eglwys a'r ffenestr hardd a Cromwell yn stablu'i geffylau yno.
Ond daeth heddwch a phlant yr ysgol yn dawnsio a chlosio'n orfoleddus bod y Frenhiniaeth wedi'i hadfer. Atgyweiriwyd yr Eglwys a daeth yn enwog trwy William Williams - Llefarydd y Senedd - Huw Morys Pontymeibion, bardd a gladdwyd wrth fur deheuol yr Eglwys, ymweliad George Borrow, Dewi Silin y Ficer a greodd sgandal wrth garu morwyn y dafarn. Yna yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg atgyweiriwyd yr Eglwys gan y Parch David Davies.
Yna cafwyd helynt ynglyn â'r Datgysylltiad ac i gofflhau'r milwyr syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf codwyd Neuadd Goffa a agorwyd gan y Fonesig Margaret Lloyd George. Ychydig am Eglantyne Jebb ac i ddiweddu'r pasiant cafwyd crynodeb gan y Ficer o ail-diwnio'r clychau a chael un cloch newydd. Yn ystod y pasiant cafwyd unawdau gan Henry, Trefor Fodwen, Edgar, Edith a Llew Ellis a Pharti Plygain. Rhoddwyd y diweddglo gyda'r cast a'r plant yn canu.
Roedd y pasiant yn rhywbeth nas anghofir yn fuan gan i bawb wneud gwaith mor ganmoladwy. Diolch yn fawr iawn i bawb am roi o'u hamser ac i'r Ficer am lunio'r sgript.
Nac anghofio diolch i Elizabeth Bickerton am gyfeilio ar y delyn a Trefor Plas ar y drwm, y cynorthwywyr tu ôl i'r llenni yn ddynion merched, ac i Gaynor Richfield am gyfarwyddo a'u rhoi ar y ffordd. Hefyd i bawb a ddaeth o bell ac agos (un o ganol Sir Aberteifi).
Adroddiad gan L. M. Jones