|
Cylch Llên Pontrobert ydi enw'r grwp - y 'chwech' sy'n cynnwys Bernard a Barbara Gillespie, Ann Hirst, Alison Layland, Nia Rhosier a Pamela Towlson, ac sy'n cwrdd yn rheolaidd yn Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert i drafod eu diddordeb mewn ysgrifennu creadigol ac i gefnogi ac ysgogi ei gilydd. Dechreuodd y cylch yn sgil cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol dan arweiniad y Prifardd Cyril Jones, sydd hefyd yn gyfrifol am ragair i'r gyfrol. Mae'r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o straeon byrion a meicro, cerddi ac ysgrifau gan y chwech. Bydd unrhyw elw a wneir o'r gyfrol yn caei ei rannu rhwng Ty Gobaith yng Nghymru a Chronfa Hen Gapel John Hughes. Caiff Gwerth Chwech ei lansio ar Ddydd Llun y Steddfod, sef 4 Awst, am 1.30 yh yn stondin Ty Newydd/Yr Academi. Dewch draw i gwrdd â'r criw a phrynu eich copi! Bydd copiau ar gael hefyd ar amrywiaeth o stondinau llyfrwerthwyr a mudiadau leol (gan gynnwys stondin Yr Ysgub, wrth gwrs!), neu ar ôl yr Eisteddfod mewn siopau lleol neu trwy'r post gan Alison Layland, 01691 860457, [email protected]
 |