|
Mae cadw mynwentydd yn drefnus yn broblem parhaol i lawer o eglwysi, capeli, a chynghorau lleol, yn yr ardal yma. Yn Llanrhaeadr cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned yw'r fynwent sy'n amgylchu Eglwys Sant Dogfan. Ym 1973 symudwyd nifer fawr o gerrig beddau o'u safle gwreiddiol a gosodwyd hwy yn bentwr wrth fur gorllewinol y fynwent. Yna ym 1988 ymgymerodd Antur Tanat Cain â'r gwaith o'u gosod yn rhesi ar eu gorwedd yn y rhan dwyreiniol, a'r rhan orllewinol o'r fynwent. O ganlyniad i'r lleihad sylweddol yn y nifer o feddfeini ar y fian yma o'r fynwent, daeth yn llawer hawddach i dorri glaswellt a chadw'r fynwent mewn trefn. Fodd bynnag achoswyd gofid i rai teuluoedd gan fod rhai beddfeini wedi eu symud tra yr oedd cysylltiadau teuluol â rhain yn parhau i fod yn yr ardal. Y mae yn parhau ddarn sylweddol o'r fynwent yma, rhwng yr Eglwys a'r Afon Rhaeadr, lle na cheisiwyd ei wella hyd yma, ac y mae'n hynod anrhefnus ac yn anodd ei drin. Y mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr (Clwyd gynt) yn awr yn bwriadu symud rhai beddfeini a'u hail-osod yn y rhan yma o'r fynwent er mwyn hwyluso torri'r glaswellt, gyda thorrwrglaswellt mecanyddol. Fe fydd yn angenrheidiol i symud y cwrbyn sydd ar rhai o'r beddau er mwyn hwyluso'r gwaith. Mae aelodau'r Cyngor yn ymwybodol o'r angen am ofal, a sensitifrwydd gyda'r gwaith yma ac fe wneir pob ymdrech i ail-osod y beddfeini a symudir yn drefnus, gan symud ond y rhai hynaf. Oherwydd prinder cyllid y mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr yn bwriadu gwneud y gwaith dros gyfnod o flynyddoedd, a bydd darn cyntaf a glustnodi'r i'r prosiect yma, yn cael ei ddewis a'i nodi yn fuan. Yna fe ofynnir i gontractwyr lleol sydd â diddordeb yn y gwaith am bris. Pan fyddo'r cynllun wedi ei gwblhau, dylai'r rhan yma fodyn daclus, ac yn hawdd i'w gadw mewn trefn yn y dyfodol. Erthygl gan J. T. Davies
 |