|
Cynhaliwyd yr ŵyl yn Theatr Hafren rhwng yr 11eg a'r 16eg o Chwefror, gyda 12 o glybiau ar draws Maldwyn yn cymryd rhan. Roedd 49 o aelodau'r clwb yn cymryd rhan ar y llwyfan yn adloniant Llanfyllin gyda llawer eraill yn gweithio tu ôl i'r llwyfan. Enw'r adloniant oedd "A Touch of Class" a gafodd ei ysgrifennu gan Gwynfor Thomas, Llansanffraid. Ef hefyd oedd y cynhyrchydd ynghyd â Mark Watkins, Cwm Nant y Meichiaid, a Linda Jones, Dolanog.
Stori'r adloniant oedd merch newydd yn ymuno ag ysgol wrthryfelgar. Roedd y ferch yn cael ei bwlio ond ar y diwedd cafodd ei gwneud yn brif ferch ac roedd popeth yn iawn.
Cafodd Marcus Vaughan, Llanfyllin, a Catrin Jones, Penybontfawr, eu henwebu am wobrwyon a chafodd Mark Watkins, Cwm Nant y Meichiaid ei wobrwyo fel yr actor gorau dros un ar hugain oed ac actor gorau'r Ŵyl.
Roedd y beirniad, sef David Hedley Williams, yn meddwl bod gan yr adloniant amrywiaeth a'i fod yn rhoi neges y stori trwy actio, canu, dawnsio a meim.
Mae'r clwb nawr yn paratoi i gynrychioli Maldwyn yng Nghystadleuaeth Adloniant Hanner Awr Cymru a fydd yn cael ei chynnal yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ar Fawrth y 7fed a'r 8fed.
 |