|
Er gwaethaf holl ddrama plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, llwyddodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Lembit Opik, ddod o hyd i'r amser i ymweld â Neuadd Llanfihangel ar 6ed o lonawr i wireddu ei addewid i fod yn siaradwr gwadd Cinio Blynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin. Cyrhaeddodd Lembit y neuadd ychydig funudau yn unig cyn i'r cinio gychwyn, newydd gwblhau cyfweliad teledu am ymddiswyddiad arweinydd y blaid, Charles Kennedy. Estynnwyd croeso i Lembit gan gadeirydd y clwb, Catherine Jones, ac yn dilyn cinio blasus anerchodd yr aelodau, bron i 70 ohonynt bellach, a'u hoedrannau'n amrywio o 13 i 26. Ymhlith siaradwyr eraill yn y cinio roedd llywydd y clwb, Ian Jones, ac is-lywydd y sir, Gwynfor Thomas. Rhoddodd is-gadeirydd y clwb, Richard Davies, ras a diolchodd ysgrifennydd y clwb, Katy Watkin. Oherwydd ymrwymiadau pellach i ymddangos ar y teledu, gadawodd yr AS yn syth ar ôl y pryd bwyd, ac yna mwynhaodd yr aelodau a'r gwesteion noson o gemau a disgo. Yn y llun uchod gwelir rhai o swyddogion CFfI Dyffryn Tanat yn cyflwyno sieciau i elusennau yn eu Cinio Blynyddol a gynhaliwyd yn y Wynnstay, Croesoswallt ar 20fed lonawr. Gwelir llywydd y clwb, John Edwards, yn cyflwyno £200 i Julie Evans ac Ursula Owen ar ran Gofal Canser Macmillan, a chadeirydd y clwb, Lowri Roberts, yn cyflwyno £200 i Anna Evans ar ran yr Ambiwlans Awyr.
 |