Y rheol Gymraeg gyda seintiau Celtaidd yw bod yr enw yn dod a flaen Sant, e. e. mae pawb yn gyfarwydd a Dewi Sant, nid Sant Dewi! Gyda seintiau Eglwys Rhufain mae Sant yn dod o flaen yr enw, e.e. Sant loan.
A oes pwrpas a gwerth i gofio'r rheol?
Pan adawodd y Rhufeiniaid ynys Prydain ychydig yn ôl y flwyddyn 400 OC bu ymosodiadau gan baganiaid Yr Almaen, gwledydd Llychllyn ag Iwerddon.
Dim ond brodorion y tir a elwir Cymru heddiw wnaeth barhau I fod yn Gristnogion ac o Gymru yr ymledodd Cristnogaeth I'r Iwerddon, yr Alban a gogledd Lloegr.
Dyma oedd yr Eglwys Geltaidd. Adlewyrchiad o bwysigrwydd Cymru yw'r ffaith mai Cymro, Dewi Sant, yw nawddsant Cymru a Chymro yw Padrig Sant, nawddsant Iwerddon. Estroniaid o'r dwyrain canol yw Sant Andrew, Yr Alban a Sant Sior, Lloegr. Mae rhai yn dadlau oni bai fod Brythoniaid 'Cymru' wedi cadw eu crefydd Gristnogol, hwyrach nad Cristnogaeth fuasai crefydd y Gorllewin heddiw.
Dyma oedd 'Oes Y Saint' yng Nghymru ac yn y Lloegr paganaidd 'Yr Oesoedd Tywyll'. Dyma pryd crewyd yr iaith Gymraeg, iaith mae llawer yn ystyried yw'r iaith hynaf yn Ewrop ac a ysgrifennwyd gyntaf oddeutu 600 OC, 300 miynedd cyn Ffrangeg ac Almaeneg a 600 mlynedd cyn Saesneg.
Roedd y Saint Celtaidd Cymreig yn rhan llweddol o greu Cenedl , o greu faith ac o amddiffyn y wlad. Yr Egiwys Geltaidd yng Nghymru oedd y mudiad 'cenedlaethol' cyntaf ym marn rhai. Yr Eglwys Gymreig oedd yr olaf o wledydd Prydain i ymuno a'r Eglwys Rufeinig yn 768 OC. Nid oedd Ilawer o wahaniaeth rhwng y ddwy eglwys ar y pryd, dim and dyddiad y Pasg a'r modd oedd mynaich yn eillio eu pennau!
Gyda dyfodiad y Normaniaid un o'r prif bethau wnaethant i ddarostwng y Cymry oedd cael rheolaeth dros yr Eglwys Gymreig. Yr iaith estron y gorychfygwyr roedd 'sant' yn dod o flaen enw'r sant a thrwy newid y drefn roeddynt am ddangos u grym.
Disodiwyd y seintiau Celtaidd hefyd e.e. cyflwynwyd Eglwys Llandrinio i Sant Pedr a Sant Paul gan Edward II ac eto ni aeth enw Trunio Sant yn angof.
Fel dysgodd Dewi Sant mae'n bwysig, gwneud y pethau bychain yn dda. Mae rhoi 'sant' yn y lle lawn yn ddolen uniongyrchol a seiliau ein crefydd, ein hiaith, ein gwlad; h.y. bodolaeth ein Cenedl.
Felly yn ardal Yr Ysgub mae gennym Cynog Sant - Llangynog, Dogfan Sant - Llanrhaeadr, Cedwyn Sant Llangedwyn, Myilin Sant - Llanfyllin,
Garmon Sant -Llanarmon a Llanfechain, Gwddyn neu Wddyn Sant -
Llanwddyn,Cadwaladr Sant - Llangadwaiadr, Tystlio Sant - Llandysilio, a Trunio Sant - Liandrinio ein seintiau Celtaidd a Sant loan - Pontfadog, Sant Tomos - Penybontfawr a Sant Mihangel Llanfihangel y seintiau Eglwys Rhufain.
Yr un sy'n aneglur yw Silin. Os mai enw Cymraeg am Giles yw Silin, felly Sant Silin sy'n gywir ond mae eraiil yn ystyried fod Silin yn Sant Celtaidd ac feily Silin Sant fuasai'n gywir.