|
Chwe blynedd yn ôl mi ddaeth criw o ffermwyr at ei gilydd o bob cwr o Gymru i sefydlu Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig gyda'r bwriad i ddiogelu'r hen fugeilwn Cymreig cynhenid a fu'n gyffredin iawn ar ffermydd Cymru a gyda'r porthmyn am genedlaethau lawer, ond a oedd wedi prinhau'n ddifrifol yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.
Nid eu hachub fel bîd prin o gŵn sioe neu anwes oedd y bwriad ond rhoi hwb iddynt i adennill eu lle fel cŵn i drin stoc ar ffermydd, boed rheini'n wartheg, defaid ceffylau, moch neu wyddau hyd yn oed. Does dim steil yn perthyn i'r cŵn hyn, gweithiant ar eu traed heb arlliw o set na dangos llygaid. Ond mae iddynt lawer o nodweddion eraill defnyddiol. Maent yn gŵn meistrolgar a diflino sy'n gallu trin diadelloedd mawrion a'u cyfarthiad yn werthfawr wrth hel defaid ar diroedd geirwon. Gan eu bod yn dra deallus maent yr un mor ddefnyddiol ar y buarth neu yn y corlannau wrth ddidoli, llwytho a dadlwytho stoc. Er mwyn sicrhau bod y nodweddion hyn yn cael eu gwarchod mae pob ci a gast gofrestredig, pan ddont i oddeutu deunaw mis i ddwy flynedd oed, ac yn gweithio'n foddhaol, yn cael eu hasesu wrth eu gwaith a'u trwyddedu cyn y gellir eu defnyddio i fridio. Felly mae gan y sawl sy'n prynu ci neu ast fach gofrestredig y sicrwydd eu bod yn dod o linach derbyniol o ran arddull a safon gweithio. Erbyn hyn mae'r Gymdeithas wedi tyfu o nerth i nerth; yn agos o saith gant i gŵn wedi'u cofrestru ganddi a thair cangen wedi'u sefydlu, un yn y Gogledd, un yng Ngheredigion ac un arall ar Fannau Brycheiniog yn y De Ddwyrain. Prif weithgarwch y canghennau hyn yw ennyn diddordeb yn y brid ymhlith ffermwyr eu dalgylch trwy gynnal dyddiau agored i arddangos y cŵn wrth eu gwaith beunyddiol ar ffermydd. Os am ragor o fanylion am y Gymdeithas cysylltwch â'r Ysgrifennydd, Y Fedw, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion SY23 5DT (01974 202560).
 |