|
Yn y gystadleuaeth Saesneg enillodd Ffion Williams, Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tanat, Darian Barhaol Sue Morris a roddir i'r Actores Orau yn y gystadleuaeth. Daeth drama Saesneg Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tanat yn 4ydd ac enillodd Dlws Nansi Dowle a roddir i'r clwb sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf. Daeth drama Saesneg Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin yn 8fed.
Yn y gystadleuaeth Gymraeg, enillodd Jess Vaughan, CFfI Llanfyllin, Darian Menter Maldwyn a roddir i'r perfformiad mwyaf doniol. Daeth drama Gymraeg CFfI Llanfyllin yn 3ydd ac enillodd Darian Her Emyr a Maggie am y set orau. Daeth dramâu Cymraeg CFfI Dyffryn Tanat yn 4ydd ac 8fed.
 |