"Yr ydym yn gwybod tipyn o hanes Owen Glyndŵr - y rhyfel cartref rhwng 1400 a 1413, a'i Iwyddiant i gadw'r Saeson i ffwrdd o Gymru.
Felly 'roedd Owen yn dibynnu ar gydymdeimlad a hefyd cymorth y tiroedd i'r De Ile 'roedd ganddo gysylitiadau teuluol. Felly ym mis Mai 1401 cyrhaeddodd Owen Sir Aberteifi gyda Ilu o gefnogwyr brwd.
Treuliodd noson mewn ogof, yna symud lawr Cwm Hyddgen Ile ymunodd Ilawer o Gymru a Saeson a'i fyddin. 'Roedd yna ddwy garreg fawr wen yn nodi'r Ile am flynyddoedd, a elwid "Cerrig Cyfamod Owen Glyndwr" ger yr afon, man sydd ym Mhowys heddiw.
Er mae wrth yr enw " Glyndŵr" yr adnabyddir Owen, ei enw teuluol oedd Owen ap Gruffydd Fychan, and gelwid of yn Arglwydd Glyndyfrdwy. Dygwyd ef i fyny i fod yn fargyfreithiwr. Er hynny 'roedd yn well gan Owen feddwl am ryfela nac astudio'r gyfraith.
Ymunodd â byddin Rhisiart a gwasanaethodd fel capten yn lwerddon yn 1394. Yna etholwyd ef yn un o warchodlu'r brenin.
Gwnaed of yn farchog, a chael ei alw yn Sir Owen de Glendore. Ar ôl anghytuno a'r Saeson am ryw reswm daeth yn ôl i Gymru, ac ar ôl hyn daeth yn elyn Ilym i'r Saeson.
Penderfynodd baratoi i ymladd yn eu herbyn, felly bu yn brysur yn casglu rhagor o ddynion at ei gilydd. Ond cyn hynny treuliodd Owen Glyndŵr rai blynyddoedd yn ei gartref mwyaf pwysig, Sycharth, yng nghanol ei gydwladwyr a'i denantiaid, yn croesawu beirdd a chyfeillion, ac yn mwynhau holl ddiddanwch y bonheddwr gwledig. Yn yr oes honno arferai bonheddwr Cymraeg gynnal ei fardd, a prif ddyletswydd hwn oedd cadw achau ei noddwr, cyfansoddi mawl-gerddi iddo a difyrru yn y wledd. Pan yn rhyfela, 'roedd yn cyffroi teimladau rhyfelgar ei wrandawyr. 'Roedd "Bardd y Teulu" yn cael bywoliaeth gysurus ac anrhydeddus.
.
Bardd pwysicaf Glyndŵr oedd lolo Goch. 'Roedd gan lolo etifeddiaeth ei hun yn Nyffryn Clwyd a elwid "Llechryd", felly nid oedd rhaid iddo weithio "am ei fara 'menyn".'Does dim amheuaeth mai barddoniaeth bwysicaf lolo Goch oedd ei ddisgrifiadau manwl o Sycharth, ac felly yn rhoi syniad go dda i ni sut fywyd oedd yn bodoli yn y bymthegfed ganrif.. Dyma ei ddisgrifiad gwych o wraig Owen, Margaret:
"Y wraig oreu o'r gwragedd,
Gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd Na gwall, na newyn, na gwarth Na syched
fyth yn Sycharth".
Ond pwy oedd Margaret, gwraig Owen? Merch i Syr David Hanmer o Sir Fflint oedd hi - of yn un o farnwyr mainc y brenin Rhisiart 11
. Priododd y ddau yn 1383 a priododd y merched ddynion o deuluoedd parchus Isabel, yr hynaf, a briododd Adda ap Iorwerth Ddu ; Alis
yr ail â Syr John Scudamore o Sir Henffordd, Janet briododd â John Croft o'r un sir; a Margaret, yr ieuengaf â Roger Monnington, hefyd o Henffordd.
Priododd Jane merch arall Owen, yr Arglwydd Grey o Ruthun, ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar gan Owen. Felly 'roedd meibion-yng-nghyfraith Owen o blith tirfeddianwyr mwya y Gororau, a bu hyn with gwrs yn fantais i Owen gae Iledu ei ddylanwad.
Ond beth am Glyndŵr ei hun?, o ble 'roedd en clod. pwy oedd ei deulu? Wel, mae'n debyg ei fod yn hanu deuluoedd parchus.
Ei dad oedd Gruffydd Fychan ai Gruffydd, - ei deulu yn mynd 'nol i Arglwydd Dinas Bran a hwnnw yn disgyn o Dywysog Powys.
'Roedd Elir mam Owen, yn disgyn o Catrin, un o ferched Llewelyi ein Llyw Olaf. Felly 'roedd Owen yn cynrychioli Ilinell Tywysogion Powys ar yr un Ilaw, a Thywysogioi Gwynedd ar y Ilaw arall.
Trist lawn felly yw meddwl fod bywyd dyn mor bwysig a mor alluog, a wnaeth gymaint i warchod ei annwyl wlad am bymtheg mlynedd rhag y Saeson, wedi dod i ben ei daith mewn ffordd mor ddinod.
'Does neb yn siwr yn mha le mae ei fedd, and credir y posibilrwydd mwya tebygol yw ei fod wedi gwneud ei ffordd drwy Si Amwythig tuag at un o'i chwiorydd, gwraig Syr Richard Scudamore, yn Sir Henffordd, a 'falle wedi ei gladdu yn mynwent Monnington.
Er hynny 'does dim cofgolofn, na hyd yn oed carreg fedd i ddynodi'r safle, ac mae'n debyg nad oedd penteulu'r Scudamores wedi cael ei berswadio i ddatgelu'r gyfrinach erioed."
Erthygl gan Betty Howard