|
Y mis yma, gofynnais i ffrind o ardal Llanfyllin a fyddai'n rhannu rysait dwy saig gyda'r darllenwyr. Alwenna Francis, Penllwyn, yw'r person sydd wedi bod mor garedig a gwneud hyn, a gobeithio y cewch drio'r ryseitiau, gan eu bod yn swnio'n ddiddorol iawn. Diolch Alwenna.
Hotpot Cig Oen
3 llwy fwrdd olew
2 a hanner pwys gwddf cig oen
2 nionyn (wedi'u pilio a'u torri'n dafellau)
2 moronen (wedi'u pilio a'u torri'n dafellau)
1 llwy fwrdd blawd
Cwarter peint gwin gwyn
Hanner peint stoc cig eidion
1 llwy fwrdd piwri tomato
1 llwy fwrdd siwgr demerara
Halen
Pupur du
1 a hanner llwy de dil wedi sychu
1 a hanner pwys tatws wedi'u pilio a'u torri'n dafellau tenau
Hanner owns menyn wedi toddi
Amser coginio - 2 awr
Tymheredd y ffwrn - 180°C, 350°F, Nwy 4
1. Cynheswch yr olew mewn padell, ffriwch y darnau o gig oen nes eu bod wedi brownio. Rhowch nhw mewn dysgu caserol mawr.
2. Ffriwch y nionod a'r moron yn yr un olew am oddeutu 2 funud. Yna trowch i mewn y blawd a choginio am 1 munud.
3. Ychwanegwch y gwin a'r stoc yn raddol, a dewch a'r gymysgedd i ferwi, gan ei droi'n aml.
4. Ychwanegwch y piwri tomato, siwgr demerara, halen, pupur a dil. Tywalltwch i mewn i'r ddysgl caserol. Cymysgwch bopeth yn dda.
5. Gosodwch dafellau o datws yn gyfartal dros y ddysgl caserol, a brwsiwch saim wedi'i doddi drostynt. Gorchuddiwch y ddysgl caserol.
6. Coginiwch am 1 a hanner awr. Cynyddwch dymheredd y ffwrn i 200°C / 400°C am yr hanner awr olaf. Tynnwch y gorchudd am yr hanner awr olaf.
Cnau Almon wedi'u Tafellu
Cynhwysion y gwaelod: 4 owns blawd
3 owns margarin
1 llwy de rhinflas almon
1 - melynwy
Pinsiad halen
Paratowch y cynhwysion uchod fel petaech yn gwneud toes.
Cynhwysion y top: 6 owns siwgr mân
4 owns cnau almon wedi'u malu
1 llwy fwrdd reis mêl
4 owns ceirios (wedi eu torri)
1 llwy de rhinflas almon
2 gwyn ŵy
Cymysgwch y cynhwysion a'u rhoi ar ben y toes mewn tun 6" x 7". Coginiwch mewn ffwrn gymedrol am 20 munud.
 |