Aeth sawl car, carafan, land rover a phic-yp ynghyd a dau fws llawn yr holl ffordd i Blackpool i weld aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin yn cynrychioli CYMRU yng nghystadleuaeth Cymru a Lloegr o adloniant hanner awr.
Doedd Blackpool ei hun ddim yn denu, gyda'i strydoedd bler a'i ddiffyg sglein, and roedd y Winter Palace, sydd yn anferth, yn orlawn, yn swnllyd ac yn llawn sêr, disglair. Roedd pump rhanbarth yn cael eu cynrychioli a Llanfyllin oedd ar y llwyfan yn ail.
Cafwyd sioe ardderchog ganddyn nhw ac os na chawsoch chi gyfle i'w gweld yna fe gawsoch golled" yn sicr. Roedd y sgript yn glyfar, yn ddoniol, yn drist ac yn hollol addas i'r criw ifanc dawnus o berfformwyr.
Roedd pethau'n mynd yn dda a'r gobeithion yn uchel and yn bumned ar y llwyfan roedd Cernyw (sydd yn dilyn trefn gwahanol i'r siroedd eraill a'r drefn honno o bosib yn rhoi mantais iddynt ond to waeth) nhw enillodd a daeth Llanfyllin (y dref fech, wledig gyda'i chlwb o aelodau ifanc) yn ail. FFANTASTIG!
Roedd yr awyrgylch yno'n drydanol a'r tynnu coes cyfeillgar rhwng y gwahanol dimau yn ychwanegu at y sbort. Wrth gwrs cafwyd mwy o Iwyddiant achos fe gafodd Catrin Jones, Penybontfawr y wobr am yr actores orau o dan 26.
Da iawn ti Catrin, roeddet ti'n ei haeddu; mi dynnodd dy ganu ddagrau i lygaid sawl un yn y gynulleidfa.
Diolch yn arbennig i Gwynfor (Thomas) am ei holl waith; dwi'n siwr ei fod o'n falch ofnadwy o'r bobl ifanc a dwi'n siwr hefyd ei fod o wedi llwyr ymlâdd ar ôl yr holl emosiwn.
Diolch o galon Gwynfor a'r holl bobl oedd a oedd yn, ac wedi cynorthwyo mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Dyma ddywedodd Marcus Vaughan am y profiad "We were
robbed".
Yn ôl Aimee Cooper roedd yn brofiad da ac yn llawer o hwyl.
Roedd Lucy Dwyrhos yn rhyfeddu at y llwyddiant "Roedd o'n brofiad swreal. I feddwl fod tref fach o ganolbarth Cymru wedi dod yn ail drwy'r wlad, mae o'n hollol waw!" Rhyfeddodd Richard Plas Elltyn at faint y llwyfan.
"Roedd y Ilwyfan mor fawr ond roedd o'n brofiad anhygoel.! Hoffai Catri Geraint ddiolch - "Diolch Gwynfor. Ti' rocio!" Mi rown y geriau ola i Catrin Jones. " Don i ddim yn sylweddoli pan alwon nhw fy enw i allan be oedd yn digwydd. Wedyn o'n i'n meddwl, O mei goli gosh!"