|
'Mae gynnon ni lamhidydd ar draeth Dyffryn', meddai llais tawel ar ben
arall y ffôn symudol.
'Elli di fynd yno erbyn unarddeg o'r gloch y bore 'ma'?
Rod Penrose oedd yn galw ac mae o, o'i gartref ger Aberteifi, wedi bod wrthi ers deuddeng mlynedd bellach yn cofnodi a chasglu môr-grwbanod a mamaliaid môr sydd wedi dod i'r lan ar hyd arfordir Cymru.
Llamhidydd yw'r mwyaf cyffredin o blith oddeutu pymtheg o famaliaid
môr o deulu morfilod (llamidyddion, dolffiniaid a morfilod) y mae Rod
wedi eu cofnodi.
Mae llamidyddion yn llai na dolffiniaid ond, yn wahanol i'w cefndryd agos, does ganddyn nhw ddim 'trwyn'.
Er bod dolffiniaid yn greaduriaid chwareus, ychydig o bobl sy'n
ymwybodol eu bod yn gallu bod yn greaduriaid ffyrnig.
'Y llynedd fe wnaethom gofnodi dau-ddeg-chwech o lamidyddion oedd wedi eu lladd gan ddolffiniaid ar hyd Bae Ceredigion', meddai Rod.
Mae'r Bae yn gartref i un o'r ychydig boblogaethau o ddolffiniaid trwyn potel a geir yn nyfroedd Prydain, a gellir gweld heidiau ohonyn nhw'n bwydo ger y lan o Benfro i Ben Llyn.
Mae Rod hefyd yn cofnodi môr-grwbanod a morloi fel rhan o'r prosiect cofnodi, ac mae'n dibynnu ar y cyhoedd ac ar rwydwaith o wirfoddolwyr,
ceidwaid, wardeiniaid a harbwrfeistri ledled Cymru i'w hysbysu am
anifeiliaid sydd wedi dod i'r lan.
I gofnodi creaduriaid morfilaidd marw sydd wedi dod i'r lan, ffoniwch
Marine Environmental Monitoring ar 01348 875000. Dylech ffonio'r
RSPCA ar 08705 555999 os bydd creadur byw wedi ei olchi i'r lan.
Am lyfryn rhad ac am ddim o'r enw Dolffiniaid, llamidyddion a
morfilod yn nyfroedd Cymru, sef llyfryn sy'n rhan o'r 'Gyfres
Rhywogaethau', cysylltwch a'r Cyngor Cefn Gwlad ar 0845 1306229.
Gallwch hefyd edrych ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru
 |